Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 26 Ionawr 2022.
Ie, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 17 Rhagfyr, yn amlinellu’r gweithgareddau a’r blaenoriaethau sy’n gysylltiedig â chyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, gan adlewyrchu’r cytundeb a wnaethpwyd gyda Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Mae ein ffocws pendant yn awr ar weithio gyda'n partneriaid i gynyddu gallu ysgolion i gyflwyno'r ddarpariaeth estynedig hon.