Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch, Lywydd, a hoffwn wneud y cynnig yn enwau fy nghyd-gyflwynwyr a minnau.
Mae’r ddadl hon yn fater y mae pob Aelod o'r Senedd yn ymwybodol iawn ohono. Mae trigolion yn ein hetholaethau yn cysylltu â ni drwy’r amser ynglŷn â'u trafferthion mewn perthynas â thrafnidiaeth leol ac yn gofyn inni beth y gallwn ei wneud i wella’r gwasanaethau. Roeddwn wedi syfrdanu gyda'r gefnogaeth eang, drawsbleidiol i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n dangos aeddfedrwydd y Senedd hon, ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd er lles pawb yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig o weld gwelliant i’r cynnig hwn, ac fe soniaf am hynny yn nes ymlaen. Gobeithiaf y gallwn rannu syniadau gyda’n gilydd heddiw er mwyn mynd ati i wella bywydau a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae byw yng nghefn gwlad Cymru, fel rwyf finnau a llawer o bobl eraill, yn sicr yn fendith. Mae'n lle sydd heb ei gyffwrdd gan lawer o gymdeithas fodern, ac mae'n dirwedd y mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod i'w hedmygu. O harddwch Bannau Brycheiniog a chwm Elan yn fy etholaeth i arfordir Sir Benfro, hyd at fynyddoedd Eryri ac ar hyd arfordir prydferth gogledd Cymru, mae ein gwlad yn un wledig iawn, ac mae'n rhaid i wleidyddion o bob lliw gofio bod gan y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghenion tra gwahanol i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd mwy trefol.
Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched ymgyrch o'r enw 'Get on Board' i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau bysiau lleol. Fe wnaethant gomisiynu adroddiad i archwilio effeithiau’r toriadau sylweddol i wasanaethau bysiau lleol rydym wedi’u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n dangos mai oddeutu un o bob pump o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig sy'n gallu defnyddio gwasanaeth bysiau aml a dibynadwy; dywedodd 25 y cant o’r ymatebwyr fod toriadau i wasanaethau bysiau wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig; a dywedodd 19 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi'i effeithio'n negyddol. Mae toriadau i wasanaethau bysiau gwledig hefyd wedi golygu lleihad yn y gallu i gysylltu â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, dywedodd 72 y cant fod eu dibyniaeth ar ddefnyddio car a’u dibyniaeth ar deulu a ffrindiau wedi cynyddu, a hynny ar draul ein hinsawdd fregus.
Yn 2004-05, gwnaed 129 miliwn o deithiau bws yng Nghymru, o gymharu â 101 miliwn yn unig yn 2018-19. Mae hyn yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau am hyn: gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth, mwy o fynediad at geir a thrafnidiaeth breifat, ac amharodrwydd, weithiau, i aros am drafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau. Ond mae pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus fel eu hunig ddull teithio yn haeddu gwasanaeth rheolaidd, cryf sydd wedi'i ariannu'n dda. Nid oes gan oddeutu 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, ac nid oes gan 23 y cant o bobl Cymru gar neu fan at eu defnydd. Felly, mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy yn hollbwysig.
Mae cymunedau fel Trecastell yng ngorllewin fy etholaeth wedi gweld eu gwasanaeth bysiau'n lleihau'n wasanaeth tacsis cyn COVID, a dim gwasanaeth o gwbl bellach, a hynny ar un o gefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm ag aelodau Sefydliad y Merched yn Llanddewi-yn-Hwytyn, lle daeth y gwasanaeth bysiau i ben yn 2015, ar ôl i ysgol leol gau. Maent bellach wedi eu hynysu mewn ardal wledig, yn dibynnu ar ffrindiau a chymdogion i'w cludo i'r dref agosaf i siopa a chael y pethau arferol o'r siopau.
Mae’r data’n glir: gŵyr pob un ohonom fod cymdeithasu a gallu cyfarfod â phobl yn cadw ein hiechyd meddwl yn gryf ac yn atal teimladau o fod yn ynysig ac yn unig. Mae’r bobl yn y cymunedau hynny’n haeddu cael gwasanaeth sicr sy’n gynaliadwy yn hirdymor, a dylai cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy’n dra chyfarwydd â'r maes hwn gan fy mod yn arfer bod yn aelod cabinet o'r cyngor mwyaf gwledig yng Nghymru. A phe gellid gwarantu cyllid ar gyfer hirdymor, byddai’n rhoi ymdeimlad gwirioneddol o sicrwydd i’r cyngor a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac yn eu helpu i gynllunio'n hirdymor, ac yn ein helpu ar y llwybr tuag at sero net.
Rydym hefyd yn gweld moderneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig. Mae cerbydau allyriadau sero yn cael eu cyflwyno ar gyfer amryw o feysydd trafnidiaeth sector cyhoeddus. Mae’r newid yn hanfodol i sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ag aer glân i’n dinasyddion ledled y wlad.
Sylwais fod fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ac eraill wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n drueni, gan ei fod yn gwneud y cynnig yn rhy wleidyddol pan nad oes angen iddo fod felly. Maent yn beio Margaret Thatcher a'r Llywodraeth Geidwadol am ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau amser maith yn ôl ym 1986, sydd bron i 40 mlynedd yn ôl. Os oedd dadreoleiddio mor ofnadwy, pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown wrthdroi’r penderfyniadau hyn rhwng 1997 a 2009? Ac rwy'n gobeithio y gall y bobl sydd wedi cyflwyno’r gwelliant ateb hynny pan fyddant yn gwneud eu cyfraniadau.
I gloi, edrychaf ymlaen at glywed y ddadl o bob rhan o’r Siambr heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac mae angen iddo fod uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb ledled Cymru. Diolch.