Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 26 Ionawr 2022.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma, er bod yn rhaid imi ddweud wrtho fod dau beth rwy'n anghytuno â hwy yn ei gyflwyniad. Mae'r cynnig ei hun yn un y credaf y bydd y rhan fwyaf ohonom, a llawer ohonom, yn cytuno yn ei gylch, ond nid oes pwynt—ac fel Ceidwadwr, wrth gwrs, fe fyddwch yn cytuno â mi—arllwys arian i mewn i wasanaeth cyhoeddus nad yw'n gweithio. Mae angen diwygio, yn ogystal â mwy o arian. Ar hyn o bryd, mae cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru gyfan, a’r un peth y mae pob un ohonom yn cytuno yn ei gylch yw na fyddai’r arian hwnnw, pe baem yn ei ddyblu, yn ddigon o hyd, ac ni fyddai'n gweithio.
Pan oeddwn yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o’r pethau a welais oedd bod pobl, ni waeth ble yn y rhanbarth hwnnw roeddent yn byw, eisiau yr un pethau, nid pethau gwahanol. Nid yw rhywun yng nghefn gwlad Cymru eisiau gwasanaeth cyhoeddus gwahanol i rywun sy'n byw yng nghanol Caerdydd. Yr hyn sy'n digwydd yn rhy aml o lawer yw nad ydynt yn cael y gwasanaethau cywir. Fel y gwelsom dro ar ôl tro—. Cyflwyniad gwych i’r lle hwn, pan gefais fy ethol gyntaf, oedd ymchwiliad a wnaethom ar amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru, a’r hyn a welsom, yn union fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, oedd bod problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn golygu nad oeddent yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus mewn pob math o wahanol ffyrdd, ond roedd pobl eisiau yr un gwasanaethau, y gwasanaethau rwy'n siarad â phobl amdanynt heddiw ym Mlaenau Gwent. Ac ni chredaf mai ceisio creu gwrthdaro rhwng pobl mewn gwahanol rannau o'r wlad yw'r ffordd iawn o ymdrin â'r pethau hyn. Mae angen inni gytuno ar y gwasanaethau y mae pobl am eu gweld yn cael eu darparu, boed eu bod yn byw yn y pentref lleiaf ym Mhowys neu ynghanol ein prifddinas. Mae'n rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny, a'r ffordd rydych yn darparu'r gwasanaethau hynny yw'r pwynt hollbwysig dan sylw yma, nid y gwasanaethau eu hunain.
A’r hyn a wnaeth Thatcher ym 1986 oedd torri’r cysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Aelod ei hun wedi’i ddisgrifio fel gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny, gan mai'r hyn a ddigwyddodd gyda phreifateiddio—. Ni ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, a dyna’r pwynt allweddol: pe bai hwn yn bolisi mor bwysig ac yn ddatblygiad mor arloesol mewn polisi cyhoeddus, byddai Llundain wedi profi'r un peth â mannau eraill, ond ni wnaethant hyn yn Llundain am eu bod yn gwybod na fyddai'n gweithio, ac nid yw wedi gweithio ers hynny. Gwelsom y tarfu a'r toriadau i wasanaethau o ganlyniad i hynny.
Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ariannu awdurdodau lleol yn iawn, a chredaf fod hwn yn un maes polisi lle gallai'r cyd-bwyllgorau corfforaethol weithio'n dda iawn mewn gwirionedd, gydag awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau ar draws rhanbarth ehangach. Yn sicr, credaf y gallai hynny fod yn wir yn y rhan o Gymru rwy'n ei chynrychioli yn awr yng Ngwent. Ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar strwythur y diwydiant, gan ein bod yn rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd i mewn i ddiwydiant nad yw’n gweithio. Nid yw'n synhwyrol parhau i ariannu diwydiant nad yw'n gweithio, mewn ffordd, ac ariannu gwasanaethau heb eu diwygio. Ac i mi, mae ailreoleiddio bysiau'n gwbl allweddol. Mae’r Gweinidog yn y maes hwn wedi gwneud ymrwymiadau dro ar ôl tro nid yn unig i gynnig gwasanaethau cyhoeddus mwy cynhwysfawr, ond gwasanaethau cyhoeddus aml-ddull hefyd. Yr unig ffordd y gallwch gyflawni hynny yw drwy reolaeth gyhoeddus a rheoleiddio cyhoeddus ar y gwasanaethau hynny.
Felly, mae angen inni allu gwneud hynny. Mae arnom angen yr offer, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn dweud eu bod yn gweithio gyda llywodraeth leol a chyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod gennym yr offer ar gael i ni i sicrhau bod y pentrefi a gynrychiolir gan yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a’r trefi a gynrychiolir gennyf fi yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ar yr adegau y mae angen y gwasanaethau hynny arnynt, ond mae hyn yn ymwneud hefyd ag ansawdd y gwasanaethau a gynigir. Gŵyr pob un ohonom, yn aml iawn—. Ac rwyf wedi gweld i lawr yng Nghaerdydd yn ddiweddar fod fflyd gyfan o fysiau trydan newydd yno. Mae'n wych. Mae'n wych i bobl Caerdydd. Rwyf am weld hynny ym Mlaenau Gwent, a pham na allaf weld hynny ym Mlaenau Gwent? A pham na ddylech gael hynny yng Ngheredigion neu Frycheiniog a Sir Faesyfed neu Gonwy? Pam na ddylech gael mynediad at wasanaeth o'r un safon ym mhob rhan o Gymru ag sydd gennych ynghanol Caerdydd? Dyna ddylai fod yn uchelgais i'r Llywodraeth.
A’r hyn y dylem ei wneud, y prynhawn dydd Mercher yma, wrth gyflwyno’r dadleuon hyn a chraffu ar y Llywodraeth, yw dweud: pa offer polisi rydych yn mynd i’w defnyddio i gyflawni hynny? Ac nid oes offeryn polisi ar gael i'r Llywodraeth, ac eithrio ailreoleiddio, ac eithrio rheolaeth gyhoeddus, sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, y mae'r Aelod yn dweud ei fod am eu sicrhau.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, ond un peth y gŵyr pob un ohonom am wasanaethau cyhoeddus da o ansawdd uchel yw nad ydynt yn gwneud arian i bobl nad ydynt yn eu defnyddio. Golyga hynny fod angen inni gael rheolaeth gyhoeddus ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod yr ansawdd ar gael i bobl, ac yna, cydgysylltu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny i ddarparu’r gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru y mae’r Aelod wedi’u disgrifio. Ac rwy'n gobeithio, cyn i’r Senedd hon fynd i mewn i’r etholiad nesaf, y bydd gennym Ddeddf bysiau ar y llyfr statud a fydd yn ailreoleiddio’r gwasanaethau ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer y math o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel y gallwn i gyd fod yn falch ohono. Diolch.