Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 26 Ionawr 2022.
Gofynnodd James Evans, yn ei ymyriad ar Hefin David, ac yn ei gyfraniad gwreiddiol: pam na wnaeth y Llywodraeth Lafur ar ddiwedd y 1990au gael gwared ar y system dameidiog? Credaf fod yr hyn a wnaethant yn ymgais wirioneddol i ddefnyddio dull partneriaeth gyda gweithredwyr i ddatblygu ffordd wahanol o'i wneud. Ond rwy'n credu y gallwn ddweud nad yw dull partneriaeth wedi gweithio. Gallwn weld yn awr ym Manceinion, bedair blynedd ar ôl cyflwyno system masnachfraint partneriaeth, eu bod yn dal i fethu rhoi gwynt o dan ei hadain.
Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol inni ddweud ein bod wedi rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol i gyflawni amcan a rennir, ac rydym yn dysgu drwy'r amser am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Ac yn amlwg, mae budd i'r sector masnachol a breifateiddiwyd o danseilio rhai o'r cynlluniau hyn—gadewch inni fod yn glir am hynny. Yn aml, daw gweithredwyr preifat ag achos cyfreithiol yn erbyn ymdrechion i wneud hyn. Maent yn aml yn lobïo a llunnir cynlluniau amrywiol i awgrymu nad oes angen masnachfreinio'n briodol gan y gall partneriaethau weithio, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y dylem fynd o'i chwmpas. Dyna'r hyn rydym yn ei wneud yn y Llywodraeth hon sy'n wahanol i'r hyn a fu o'r blaen: edrych ar fodel cyfandirol o fwrdd goruchwylio yn hytrach na bwrdd partneriaeth lleol, dull Cymru gyfan, gyda Trafnidiaeth Cymru yn ganolog iddo, ond gan weithio'n iawn drwy'r gwahanol rannau o lywodraeth leol, lefel y cyngor sir, lefel y cyd-bwyllgor corfforaethol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, i geisio llunio system rhyngom sy'n mynd i weithio, sy'n mynd i ganiatáu masnachfreinio ar sail ardal gyfan. Oherwydd y system bresennol sydd wedi'i phreifateiddio yw gwraidd y broblem mewn gwirionedd, a dyna lle rwy'n cytuno â'r gwelliant. Yn amlwg, mae Gweinidogion y Llywodraeth yn draddodiadol, yn y dadleuon hyn, yn ymatal ar y cynigion, am mai cynigion y meinciau cefn ydynt, a byddwn yn parhau â'r traddodiad hwnnw heddiw. Ond rydym yn sicr yn cefnogi ysbryd yr hyn y dadleuir yn ei gylch y prynhawn yma, ac mae angen inni newid i sylfaen fwy cydlynol sydd wedi'i chynllunio'n well.
Nawr, fel y dywedodd Carolyn Thomas yn ei chyfraniad, a oedd yn bwerus iawn yn fy marn i, anaml iawn y mae gwasanaethau bws gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth. Ac mae hynny'n gwbl gywir. A soniodd am enghraifft o weithredwr yn rhoi'r gorau i lwybr ac yna'n mynnu cymhorthdal 10 gwaith yn fwy nag a roddwyd yn flaenorol, a dengys hynny sut y mae gweithredwyr masnachol yn chwarae'r system, a dyna sy'n digwydd mewn marchnad onid e? Ac nid wyf yn beirniadu'r gweithredwyr unigol wrth ddweud hynny; dyna y mae'r farchnad yno i'w wneud. Ond fel y dywedodd Hefin David yn ei gyfraniad da, mae methiant amlwg yn y farchnad, oherwydd nid yw'r farchnad yn gwasanaethu budd y cyhoedd. Felly, yr hyn a welwn yn aml yw gweithredwyr yn cystadlu am nifer fach o lwybrau proffidiol ac yna'n peidio â rhedeg llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.
Nawr, roedd yna adeg pan oedd digon o arian cyhoeddus i allu cynnig cymorthdaliadau ar gyfer y llwybrau hyn sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ond ar ôl 10 mlynedd o gyni, nid yw'r cyllid disgresiynol hwnnw yno. Ac yn aml, rwy'n credu—. Rydym wedi gweld Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â gwasanaethau masnachol yn unig bellach; nid oes cyllid ar gael ar gyfer rhoi cymhorthdal i lwybrau, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu yn natur y rhwydwaith bysiau sydd ar ôl yn yr ardal honno erbyn hyn. Nid ydym eisiau gweld hynny. Rydym eisiau gweld gwasanaeth bws rheolaidd a dibynadwy, fel y gallwn weld mewn llawer o systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i'n cymdogion agos. Sylwaf ar yr hyn a ddywedodd Sam Kurtz am enghraifft o weithiwr rhan amser yn ceisio dychwelyd adref o shifft hwyr yn Ninbych-y-pysgod lle nad yw'r system yn ddigon da ar hyn o bryd. Rydym angen iddi fod yn ddibynadwy, rydym angen iddi fod yn rheolaidd, ac rydym angen iddi fod yn fforddiadwy. A wyddoch chi beth? Mae'n gwbl bosibl. Ceffyl da yw ewyllys. Nid yw hyn yn rhy gymhleth i'w wneud; ond nid ydym wedi bod yn barod i wario'r arian angenrheidiol, na rhoi'r strwythur rheoleiddio cywir ar waith er mwyn gwneud iddo ddigwydd, a dyna rydym eisiau ei wneud. Ac rwy'n credu mai dyma lle daw'r ffocws penodol ar ardaloedd gwledig i mewn iddi, oherwydd mae llawer o'r hyn rydym wedi'i ddisgrifio yn berthnasol i bob rhan o Gymru.
Mewn ardaloedd gwledig, mae yna gyfres ychwanegol o heriau. Nawr, gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl weithredol mewn ardaloedd gwledig. Os edrychwch ar yr Almaen wledig, neu'r Swistir wledig, sydd yr un mor denau ei phoblogaeth, os nad yn fwy tenau, â rhannau o gefn gwlad Cymru, mae ganddynt bentrefi yno, pentrefi bach, gyda gwasanaeth rheolaidd bob awr, am mai dyna maent wedi ei flaenoriaethu, a dyna maent wedi'i wneud yn eu systemau masnachfraint, lle maent yn defnyddio gwasanaethau gwneud elw mewn trefi i draws-sybsideiddio gwasanaethau sy'n gwneud colled mewn ardaloedd gwledig, gan gydnabod bod angen cymdeithasol yma.
Credaf fod yr achos dros system fysiau briodol yn ymwneud lawn cymaint â chyfiawnder cymdeithasol ag y mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ac rwy'n teimlo'n angerddol am hynny, fel Aelodau eraill, yn wir, ar draws y rhaniad. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i feddwl am rywbeth a fydd yn sefyll prawf amser. Felly, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn, ac fel y dywedais, rydym yn ymgynghori ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phan gaiff hwnnw ei gyflwyno i'r Senedd, gadewch inni weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol i weld a allwn ei gryfhau a sicrhau ei fod yn addas i'r diben. A byddaf yn sicr yn addo gwrando er mwyn gweithio gyda chi i weld a ellir ei wneud hyd yn oed yn gryfach. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, rydym yn ei drin gyda'r brys mwyaf, ond rydym eisiau ei gael yn iawn.
Nawr, gwnaeth Natasha Asghar y ddadl nad oes digon o arian ar gyfer bysiau, ac mae'n sicr yn wir, er ein bod yn rhoi swm sylweddol o arian—. Yn ystod y 15 mis diwethaf, rydym wedi blaenoriaethu mwy na £108 miliwn i gefnogi'r diwydiant bysiau drwy COVID. Fel y nododd Hefin a Jack Sargeant yn gywir, oni bai am y cyllid hwnnw, byddai'r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal. Mae hynny ar ben y £90 miliwn rydym eisoes yn ei wario'n flynyddol ar ddarparu gwasanaethau bysiau, ond nid yw hynny'n ddigon i gael y math o wasanaeth bws rydym ei eisiau a'r math a welir ar y cyfandir. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno'r adolygiad ffyrdd. Ac rwy'n sylweddoli nad yw pob Aelod wedi cefnogi hwnnw, ond y rheswm dros wneud hynny yw oherwydd ein bod eisiau rhyddhau cyllid i wneud buddsoddiad, i flaenoriaethu buddsoddiad, mewn trafnidiaeth gyhoeddus. A hoffwn ddweud mor garedig ag y gallaf wrth Aelodau ar draws y Siambr nad oes pwynt cefnogi ymrwymiadau lefel uchel o ran newid hinsawdd os nad ydych yn barod i ddilyn y camau angenrheidiol i wireddu'r ymrwymiadau hynny. Mae'n rhaid symud arian oddi wrth adeiladu ffyrdd a thuag at wella trafnidiaeth gyhoeddus os yw'r holl deimladau a glywsom yn y ddadl hon heddiw am gael eu trosi'n system fysiau sy'n gweithio'n iawn. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar hynny.
Dywedodd Natasha Asghar ei bod wedi bod yn saith mis ers yr adolygiad ffyrdd ac na allwn aros a gwneud dim. Wel, efallai ei bod hi'n aros a gwneud dim, Ddirprwy Lywydd, ond yn sicr nid wyf fi'n gwneud hynny ac nid yw bwrdd y panel adolygu ffyrdd yn gwneud hynny, oherwydd maent yn cyfarfod yn rheolaidd ac maent yn rhoi ystyriaeth ddwys i'r dasg. Maent ar fin cyhoeddi adroddiad dros dro ac adroddiad llawn erbyn yr haf, felly maent yn gweithio'n gyflym.
Gwnaeth Peter Fox y pwynt am ddull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau bysiau, ac roeddwn yn falch o gyfarfod â'r Cynghorydd Richard John, arweinydd Sir Fynwy, ddydd Llun i siarad am drafferthion penodol Sir Fynwy, nad yw'n cael ei gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus—ei olynydd ef—i ddeall y pryderon sydd ganddynt. Ac rwy'n credu—. Rwy'n cytuno â'i her fod gan gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, drwy'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, rôl hanfodol i'w chwarae yn gwneud i'r system fasnachfreinio weithio.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod fy amser wedi dirwyn i ben, ond hoffwn ailadrodd fy niolch i'r holl Aelodau am gytuno ar beth yw'r broblem. Nawr, rwy'n credu mai'r her i bob un ohonom yw dod at ein gilydd i ganfod yr ateb. Diolch.