Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma heddiw ac i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb. Diolch yn arbennig, wrth gwrs, i James Evans, yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed, am gyflwyno'r ddadl mewn modd trawsbleidiol fel hyn.
Mae hi'n ddadl hynod o bwysig oherwydd nid yn unig ei bod hi'n cyflwyno datrysiad syml a pharod i'r broblem o sut mae cysylltu pobl rhwng pwynt A a phwynt B, ond mae'n gwneud cymaint yn fwy na hynny. Mae sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a llyfn yn ein cymunedau gwledig hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r trafferthion sylfaenol eraill sydd yn ein hwynebu, megis twf economaidd, sicrhau gwaith, sicrhau iechyd corfforol a meddyliol, addysg a llawer iawn yn fwy.
Ddaru ni glywed nifer fawr o gyfraniadau gan nifer o bobl. Fyddaf i ddim yn medru mynd drwy bob un ohonyn nhw, ond, wrth gwrs, ddaru James agor y drafodaeth wrth sôn am ei sgyrsiau efo'r corff arbennig yna sy'n cynrychioli menywod yma yng Nghymru, y WI, a sut mae aelodau o'r WI yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aml iawn, ac, yn benodol, y ffordd maen nhw wedi edrych ar unigrwydd yn ein cymunedau ymhlith y bobl hŷn a sut mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio arnynt hwythau.
Ddaru Jane Dodds sôn am ei chynnig hi ddaru gael ei drafod o'r blaen a'r ffaith bod angen trafnidiaeth am ddim ar fysus i bobl o dan 25 oed, a chynnig datrysiadau amgen i'r broblem yma. Ddaru Carolyn sôn yn rymus iawn am ei phrofiad personol hi ar y cabinet yn Fflint a sôn am sut mae cwmnïau bysus erbyn hyn ond yn edrych i wneud elw ond bod yna angen mwy gan wasanaethau bysus, a bod y galw am wasanaethau bysus er mwyn cysylltu cymunedau a sicrhau bod gan bobl fynediad i wasanaethau yn bwysicach nac elw—pobl dros elw oedd hi'n ei ddweud.
Ac yna, dyma ni'n gweld cyfraniadau pwerus iawn gan Jack Sargeant a Hefin David yn sôn am y dadreoleiddio a fu yn ystod cyfnod Margaret Thatcher a sut roedd hwnna wedi bod yn niweidiol, ac mi fyddaf i yn sicr, felly, yn cefnogi'r gwelliant.
Roedd Sam Kurtz yn sôn am y ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl angenrheidiol i bobl mewn cymunedau gwledig er mwyn cael swyddi, er enghraifft, a'i brofiad personol o. Ac yna, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, ac yntau, wrth gwrs, yn sôn am yr adolygiad ffyrdd. Rwyf innau, yng nghyd-destun Llanbedr, yn boenus o ymwybodol o hynny, a hoffwn i gymryd y cyfle yma, felly, i wahodd y Dirprwy Weinidog i ddod i Lanbedr efo fi er mwyn ein bod ni'n medru ceisio canfod datrysiad amgen i'r broblem yno.
Ond ta waeth am hynny, os ydyn ni o ddifrif, felly, am fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan, yna mae'n rhaid i ni leihau ein gorddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, fel mae nifer fawr yma wedi sôn heddiw. Fel y saif pethau, does yna ddim dewis gan bobl yn ein cymunedau gwledig ond defnyddio car.
Rhwng 2010 a 2018, fe ddisgynnodd y gwariant cyhoeddus ar fysiau o £10 miliwn. Yn ôl ffigurau Campaign for Better Transport, gwelwyd cwymp o bron i 70 y cant yn y pres cyhoeddus a roddwyd i fysiau yn y cyfnod yma ar draws Cymru. Mae sir Fynwy yn gweld cwymp o dros 65 y cant o doriadau; sir y Fflint yn gweld cwymp o 51 y cant; ac, yn wir, mewn rhai siroedd efo ardaloedd gwledig, gwelwyd toriad o 100 y cant yn y sybsidi cyhoeddus, er enghraifft yn Wrecsam a Chastell Nedd Port Talbot. Dydy hyn, felly, ddim yn gynaliadwy, a'r bobl dlotach a mwyaf bregus sydd yn dioddef. Ceir un o'r gwasanaethau gorau, wrth gwrs, yn Llundain, lle, fel rydyn ni'n gwybod, ni welwyd y dadreoleiddio yno o dan Thatcher, ac mae'r achos yna wedi cael ei roi.
Dros yr haf diwethaf yma yn Nwyfor Meirionnydd, gwelwyd busnesau lletygarwch yn gorfod cau yn ystod brig y tymor twristiaeth. Pam hynny? Oherwydd, wrth i ni yn ein swyddfa ffonio'r busnesau yna, yr hyn a ddywedon nhw oedd bod pobl yn methu â chyrraedd eu gweithle. Roedd yna fwytai yn methu agor oherwydd roedd pobl yn byw ymhell i ffwrdd heb drafnidiaeth. Ddaru fi fynd i siarad efo'r ganolfan waith ym Mhorthmadog, a hwythau'n sôn mai'r her fwyaf sydd yn wynebu eu cleientiaid nhw wrth chwilio am waith oedd y gallu i gyrraedd gwaith a'r diffyg gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'w cymryd nhw yna.
Rwyf innau wedi sôn erbyn hyn sawl gwaith am y gwaith rhagorol mae elusen Gisda wedi'i wneud. Mae elusen Gisda wedi cynnal ymgynghoriad efo pobl ifanc yn edrych ar iechyd meddwl, a phobl ifanc Gwynedd yn dweud mai'r her fwyaf i'w iechyd meddwl ydy'r diffyg i gael mynediad i'r gwasanaethau oherwydd eu bod nhw mor bell i ffwrdd a methu â chael trafnidiaeth.
Mae'r achos wedi cael ei wneud yn glir, felly, ac mae nifer o bobl yma wedi rhoi nifer o atebion. Buaswn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, wrth ei fod o'n paratoi'r Papur Gwyn—a chwarae teg i'r Dirprwy Weinidog am sôn am ardaloedd gwledig—i ystyried cynnig Peter Fox fod yna ystyriaeth benodol yn cael ei rhoi i ddatblygu strategaeth wledig yn y Papur Gwyn yna. Felly, diolch yn fawr iawn unwaith eto i James Evans am ddod â'r ddadl yma gerbron ac i bawb am eu cyfraniad. Dwi'n ddiolchgar iawn am hynny. Mi fyddaf i'n cefnogi'r gwelliant ac yn annog pawb i gefnogi'r gwelliant, ac, felly, y cynnig. Mae'r achos wedi'i wneud a dwi'n edrych ymlaen i'r bleidlais. Diolch yn fawr iawn.