Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 26 Ionawr 2022.
Nid yw diffyg fesul disgybl parhaus Cymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU yn ddigon da ychwaith. Ond nid yw'n syndod gan blaid sydd wedi sicrhau mai ni yw'r unig wlad yn y DU i fod wedi torri cyllideb addysg erioed. Tan y gyllideb ddiweddar, am bob £1 a werir yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. O ganlyniad, dylai gwariant ar addysg fesul disgybl yng Nghymru fod o leiaf £1,000 yn fwy o'i gymharu â Lloegr.
Mae plant wedi dioddef llawer yn ystod y pandemig hwn, gyda'u haddysg, eu hiechyd meddwl a newidiadau cerrig milltir pwysig. Collodd fy mhlentyn dwy flwydd oed gyfle i gyfarfod â phlant newydd ei oedran ef yn lleol oherwydd bod dosbarthiadau i fabanod wedi cael eu canslo. Ni chafodd fy mab arall ddathlu ei flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Collwyd llawer o gerrig milltir a dramâu'r geni ac achlysuron pwysig—efallai y byddwch yn meddwl bod y rhain yn ddibwys, ond mae colli'r rhain oll wedi cael effaith ar y plant a'r rhieni.
Mae diffyg dyfeisiau electronig a band eang gwael hefyd yn broblemau a rhwystrau mawr i ddysgu a ddaeth yn amlwg yn sgil y pandemig, ymhlith llawer o anghydraddoldebau eraill ledled y wlad. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at broblemau mawr o ran diogelwch plant, ac at ansawdd yr addysg y gall plant ei derbyn gartref. Hefyd, mae'r pandemig wedi gwneud i bawb ohonom sylweddoli pa mor bwysig yw ysgolion a bywyd ysgol, nid yn unig o ran addysg, ond ar gyfer iechyd meddwl ein plant.
Mae llawer o blant sy'n cael eu haddysgu gartref yn gwneud yn dda, ac mae'n gweithio i rai teuluoedd, gan gynnwys cyd-Aelod i mi, ond erbyn hyn mae cynnydd pryderus yn nifer y rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref, ac rwy'n dweud 'pryderus' oherwydd yn ddiweddar mae rhieni'n aml yn ei wneud mewn ymateb i'r ffaith bod yn rhaid gwisgo masgiau mewn ysgolion, neu oherwydd pryderon am y feirws, nid fel dewis ynglŷn â'r hyn sydd orau i'w plant, eu haddysg, eu teulu a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y duedd hon, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ystadegau gan y Gweinidog ynghylch sut y mae'r Llywodraeth hon yn mesur pa mor gymwys yw'r rhieni hyn sydd eisiau addysgu eu plant gartref, pa mor rheolaidd y ceir arolygiadau, sut y caiff cynnydd ei fonitro, ac a fydd unrhyw beth yn cael ei wneud i annog ailgofrestru mewn ysgolion. Fel y mae data diweddar yn ei ddangos, roedd 4,000 o blant pump i 15 oed yn cael eu haddysgu gartref yn 2021, sy'n gynnydd o 60 y cant ers 2018-19. Mae'n amlwg bod hwn yn gynnydd enfawr, felly edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y bydd yn mynd i'r afael â hyn ar frys.
Rwy'n croesawu'r cynnydd yn y gyllideb addysg eleni, ond rwy'n dal i feddwl tybed a fydd yn ddigon mewn gwirionedd i wneud iawn am yr amser a gollwyd ac i ymdrin â'r holl newidiadau niferus ac enfawr a welwn mewn addysg ar hyn o bryd, sef y cwricwlwm newydd, y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), addasiadau awyru, iechyd meddwl, a gallwn barhau. Rydym yn croesawu'r arian ar gyfer addasiadau awyru, ond mae angen iddynt gael eu gwneud ar gryn dipyn o frys gan ein bod yn dal i weld plant yn eistedd mewn cotiau a siacedi mewn tymereddau rhewllyd, gyda'r holl ffenestri a drysau ar agor yn ein hysgolion a'n colegau. Nid yw hyn yn iawn—nid yw'n iawn ar gyfer eu llesiant, ac nid yw'n gynaliadwy.
Mae'r cynnydd yn yr amseroedd aros i blant gael eu gweld gan arbenigwr triniaeth niwroddatblygiadol yn peri pryder mawr ac yn enghraifft arall o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael. Ar hyn o bryd mae rhestr aros o ddwy flynedd a mwy i blant weld arbenigwr niwroddatblygiadol, sy'n creu problemau sylweddol ar gyfer y dyfodol, ac yn fy marn i, yn creu risg sylweddol i gyfleoedd dysgu a chyfleoedd bywyd plant. Heb yr apwyntiadau niwroddatblygiadol, mae gennym blant y nodwyd yn glinigol eu bod yn awtistig neu ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd gan arwain at lefelau is o ddealltwriaeth a darpariaeth, gan greu senario lle nad yw plant yn cael eu cefnogi'n ddigonol i ffynnu, a gwn fod athrawon yn teimlo'n rhwystredig iawn ynglŷn â hyn. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hyn yn ddigon da yn yr oes sydd ohoni. Mae'n rhaid inni gael y pethau sylfaenol hyn yn iawn cyn inni edrych ar gynlluniau sy'n bachu penawdau.
Rwy'n croesawu'r arian a roddwyd tuag at hyn yn ddiweddar, a'r newidiadau i'r system ar gyfer canfod y cyflyrau hyn, ond ni allwn adael i fwy o blant ddisgyn drwy'r rhwyd. Mae hwn yn fater o frys mawr, yn enwedig ar gyfer plant sy'n agored i niwed, fel y dywedwyd yn y cwestiynau addysg yn gynharach. Mae'r pandemig yn gwaethygu eu problemau, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael cymorth ar waith a bod hyn yn cael ei gyflymu i blant.
Un o'r prif bryderon rydym i gyd yn eu rhannu, fel sy'n amlwg o'r gwelliant, yw iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a staff hefyd. Er bod ysgolion yn gallu defnyddio'r arian Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i gefnogi plant drwy faterion llesiant wedi'u targedu, mae'r pryder ehangach yn ymwneud â lle mae ysgolion yn mynd o'r fan honno, oherwydd heb y cymorth clinigol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl sylweddol, dim ond gosod plastr dros glwyf agored a wnawn. Mae angen adolygiad gwraidd a brig o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Nid problem 'yn awr' yw hon, ond un a fydd yn arwain at ganlyniadau i genedlaethau.
Mae'n destun pryder i mi fod ffocws y Llywodraeth hon wedi bod yn gwbl anghywir yn ddiweddar: addysg rhywioldeb newydd sy'n dileu menywod, ailwampio asgell chwith ein hanes sydd ar fin cael ei gyflwyno i'n plant, a chwricwlwm newydd nad oes gan athrawon ganllawiau clir ar sut i'w gweithredu o hyd.
Effaith bryderus arall ar ein plant mewn perthynas â'r cyfyngiadau presennol yma yng Nghymru yw masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Mae tystiolaeth Llywodraeth y DU a hyd yn oed cynghorwyr gwyddonol Cymreig wedi dweud nad ydynt yn gwneud fawr o wahaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth. Ond oherwydd bod y Llywodraeth hon yn rhy ofnus i wrthsefyll yr undebau a gwrando ar gyngor gwyddonol, mae ein plant yn dal i orfod gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth drwy'r dydd. Gall hyn effeithio'n andwyol ar ddysgu ac ar ddysgwyr, gan ei fod yn cyfyngu ar gyfathrebu rhwng athrawon a disgyblion a chyfathrebu rhwng disgyblion. Mae hefyd yn hynod anghyfforddus ac yn gyfyngus i'w gwisgo am oriau maith.
Mae angen dull sy'n cydbwyso gwahanol fathau o niwed yma gyda'r penderfyniad yn dod o'r brig, gan y bydd yn rhoi ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd fel arall. O ystyried cryfder y teimlad ynghylch masgiau ar y naill ochr a'r llall, credaf y dylid gwneud y penderfyniad hwn yn genedlaethol. Ar ôl mabwysiadu llawer o ddulliau gwahanol, ni fydd o fudd i ddisgyblion a bydd yn creu rhaniadau ar draws y wlad, yn peri gofid yn ogystal â dryswch. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod angen atebion lleol ar rai pethau, ond mae materion fel masgiau wyneb yn galw am ddull gweithredu cenedlaethol mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, bydd atebion lleol gan ysgolion unigol i lawer o bethau, fel rwyf wedi'i ddweud, ond yr adborth rwy'n ei gael yw bod angen i'r Llywodraeth hon ddangos mwy o arweiniad, mwy o fanylion ynghylch yr hyn y gofynnir i ysgolion a phlant ei wneud, mwy o ymdrech i gyflymu'r cymorth ar gyfer pryderon pwysig ynghylch iechyd meddwl plant, a mynd i'r afael â'r amseroedd aros ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, i'r rhai sy'n aros yn awr i gael eu hanghenion wedi eu nodi cyn gynted â phosibl fel eu bod yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys.
Rydym bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae angen mwy nag ymrwymiad yn unig; mae arnom angen cynlluniau manwl ar gyfer diwygio a chymorth. Mae angen i ysgolion wybod y paramedrau y maent yn gweithio ynddynt ac mae angen i ddarpariaeth addysg fod yn gyfartal. Mae angen gweithredu yn awr yn fwy nag erioed i osgoi tarfu pellach ar addysg ein dysgwyr ac i osgoi'r argyfwng iechyd meddwl yn ein hysgolion, gydag effaith mwy o gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â llawer o ffactorau eraill yn ystod y cyfnod clo, yn dechrau dangos yn awr. Mae'r effaith ar iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yn un a fydd yn para am ddegawdau.
Rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw a diolch i bob un ohonoch ymlaen llaw am gyfrannu at y ddadl bwysig hon. Mae'n bwysig ein bod yn cael cyfle i drafod y pryderon addysgol hollbwysig hyn sydd gennym i gyd. Diolch.