Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 26 Ionawr 2022.
Iawn. Dylwn ddweud ei bod yn gwbl anghywir fod gan Gymru lai o gyllid. Fel y mae cynnig Llafur yn ei nodi, rydym yn gwario mwy o arian o lawer ar geisio atgyweirio’r niwed anochel a ddigwyddodd ymhlith ein plant, a dylai hynny fod yn destun gofid i bob un ohonom. Ond mae'r pethau sydd angen inni eu gwneud, sef cyflogi mwy o weithwyr ieuenctid, cyflogi mwy o gwnselwyr a sicrhau ein bod yn hyrwyddo chwarae fel ffordd o wella yn sgil COVID yn ffyrdd hynod bwysig o helpu pobl ifanc a phlant i wella ar ôl y pandemig echrydus.