Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch. A oes gan James Evans unrhyw bryderon ynghylch effaith COVID hir ar blant? Nid wyf yn siŵr a glywsoch chi Adam Price yn datgan ddoe fod ymchwil yn amcangyfrif bod rhwng 10 ac 20 y cant o blant sy'n dal COVID-19 wedi datblygu COVID hir pediatrig. A ydych mor ddi-hid gydag iechyd ein plant fel nad oes ots gennych, a dweud bod yn rhaid inni fyw gyda hyn?