Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 26 Ionawr 2022.
Gobeithio nad oes ots gennych os dechreuaf fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r Aelodau o bob rhan o’r Siambr am eu geiriau caredig a’u dymuniadau da yn ystod fy arhosiad yn yr ysbyty yn ddiweddar. Roedd yn golygu llawer i mi, ac mae'n dda iawn bod yn ôl heddiw.
Mae hefyd yn dda bod yn ôl i gymryd rhan yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar effaith COVID ar addysg. Mae rhieni, disgyblion, ac yn arbennig, staff addysgu wedi ymateb yn wych i’r her o weithio’n wahanol a chystadlu â rheolau a rheoliadau sy’n newid yn barhaus i daro’r cydbwysedd anodd rhwng darparu addysg ragorol a chadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Ac mae cymunedau wedi gwneud hynny hefyd. A hoffwn achub ar y cyfle i ganmol gwaith gwirfoddolwyr lleol a grwpiau cymunedol yn helpu ar fyr rybudd pan darodd y pandemig gyntaf i sicrhau bod dysgu rhithwir yn mynd rhagddo. Enghraifft allweddol fyddai grŵp gweithredu COVID-19 Porthcawl yn fy rhanbarth i a gasglodd gyfrifiaduron a gliniaduron a’u rhoi i ddisgyblion oedran ysgol a fyddai wedi methu cael mynediad at ddosbarthiadau ar-lein fel arall o bosibl. Felly, diolch yn fawr iddynt hwy ac i'r grwpiau eraill y gwn amdanynt ledled Cymru a helpodd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael addysg, er gwaethaf y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y pandemig.
Ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar effaith cau ysgolion. Oherwydd mae pob un ohonom yn ymwybodol o werth un diwrnod ysgol. Mae’r gwersi a ddysgir, boed ar y cwricwlwm ai peidio, yn amhrisiadwy ac yn ddigyffelyb, a’r llynedd yng Nghymru, fel y dywedodd Laura Anne Jones, collodd disgyblion 66 o’r dyddiau hynny oherwydd y mesurau COVID-19 a oedd ar waith yng Nghymru, sy’n fwy o amser wedi'i golli o'r ystafell ddosbarth nag unrhyw ran arall o'r DU. Ac fel y dywedasom yn ein cynnig, mae Estyn wedi nodi’n glir fod hynny’n golygu bod sgiliau mathemateg, darllen, Cymraeg a chymdeithasol dysgwyr oll wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion. Ond y gwir amdani yw nad ydym yn gwybod eto pa mor sylweddol fydd yr effaith yn hirdymor. Oherwydd er gwaethaf ymdrechion gwych rhieni, athrawon a disgyblion, nid yw dysgu rhithwir yr un peth â bod mewn ystafell ddosbarth.
Rhagwelodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y byddai dysgwyr presennol yn debygol o ennill llai o gyflog, gan amcangyfrif y gallai’r gwahaniaeth fod cymaint â £40,000. Mae'r dysgu coll hwn ar draws y 66 diwrnod wedi arwain at effaith sylweddol ar ragolygon hirdymor plant. Maent hefyd wedi rhagweld y byddai'r gost ariannol o sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn dal i fyny’n ddigonol â’r addysg y maent wedi’i cholli oddeutu £1.4 biliwn, ond hyd yn oed wedyn, mae’n debygol y byddai hynny’n arwain at fyfyrwyr yn cael eu gorlwytho â gwaith a’r pwysau angenrheidiol i ddal i fyny â'r sgiliau a gwaith na chawsant gyfle i'w dysgu yn y lle cyntaf.
Nawr, ni allwch roi pris ar ddylanwad athro da yn yr ystafell ddosbarth a'r ffyrdd y gallant nid yn unig addysgu, ond siapio bywyd a dyfodol mewn ffordd nad yw'n bosibl dros Zoom. Ac er bod y rhan fwyaf o rieni wedi camu i'r adwy drwy helpu eu plant cystal ag y gallant i sicrhau nad ydynt ar eu colled drwy beidio â bod yn yr ysgol, y gwir amdani yw mai dyma'r un bobl sy'n aml iawn yn ymdopi â nifer o newidiadau a heriau eraill yn eu bywyd proffesiynol a’u hymrwymiadau cymdeithasol a theuluol o ganlyniad i effeithiau ehangach COVID. Er bod llawer o rieni a gofalwyr wedi llwyddo i gydbwyso gweithio gartref gyda gofal plant ac addysg a fyddai fel arall wedi cael ei ddarparu gan ysgolion cyn y pandemig, nid oedd pob dysgwr ifanc mor ffodus â hynny. Ac yn aml, y dysgwyr hynny a fyddai'n elwa fwyaf o ddiwrnod ysgol rheolaidd a dylanwad athro da.
Ond mae'n ymwneud â mwy na dysgu'r sgiliau cymdeithasol. Yn aml, ysgolion yw'r unig fannau lle mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Rydym wedi trafod manteision chwaraeon ac ymarfer corff sawl gwaith yn y Siambr, o ran iechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd o ran datblygiad a phwysigrwydd pethau fel gwaith tîm a bondio. Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam fod hyn mor bwysig wrth symud ymlaen. Mae angen inni sicrhau nad ydym byth yn cyrraedd sefyllfa lle caiff ysgolion eu gorfodi eto i gau oherwydd COVID. Mae datblygiadau mewn triniaethau a'r gwaith aruthrol o gyflwyno brechlynnau ledled y DU wedi lliniaru effaith COVID, ac mae llawer o staff addysgu bellach yn dymuno addysgu disgyblion yn eu hystafell ddosbarth, gan eu bod hwythau hefyd yn sylweddoli faint o effaith y mae cau ysgolion wedi’i chael.
Ond hefyd i’n cenhedlaeth bresennol, i’r disgyblion sydd eisoes wedi’u heffeithio, ni allwn fforddio cael cenhedlaeth o blant COVID y mae eu haddysg wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bwysau’r coronafeirws. Dyna pam fod arnom angen cynllun gan Lywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael â'r effaith y mae’r pandemig eisoes wedi’i chael ar ddysgwyr Cymru, a dyna pam fy mod yn gofyn i Aelodau o bob rhan o’r Siambr gefnogi ein cynnig heddiw.