Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 26 Ionawr 2022.
Gall yr Aelodau Torïaidd yma siglo eu pennau gymaint ag y maen nhw eisiau. Gallwch ddadlau mai amddiffyn pobl a democratiaeth yw nod Boris Johnson a'i griw, ond mawr obeithiaf fod digon o synnwyr a digon o integriti gyda chi i sylweddoli pa mor ddianghenraid yw cyflwyno ID i bleidleisio. Mae'r achosion o dwyll pleidleisio mor fach.