8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:21, 26 Ionawr 2022

Mae arbrofion gydag ID pleidleisio wedi dangos bod e'n arwain at lai o bobl yn pleidleisio. Ym mheilot San Steffan yn 2019, o'r 1,000 gafodd eu gwrthod oherwydd diffyg ID, ni ddychwelodd 338—un traean heb ddychwelyd. Mewn peilot arall, ble roedd modd dangos ID ffotograffig neu ddau ddarn o ID penodol heb lun, cafodd 2,000 eu gwrthod. Y tro yma, ni ddychwelodd 750. Nid fy ffigurau i, nid ffigurau'r Electoral Reform Society nac unrhyw grŵp arall, ond ffigurau'r union Lywodraeth sydd eisiau cyflwyno ID pleidleisio.