Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 26 Ionawr 2022.
Diolch. Diolch, Heledd, am dderbyn yr ymyriad. Bydd y lluniau adnabod y bydd pobl yn gallu eu cael os nad oes ganddynt basbort neu drwydded yrru yn rhad ac am ddim. Felly, nid wyf yn siŵr pam eich bod yn honni y bydd baich ariannol ar unigolion nad oes ganddynt lun adnabod eisoes. Fe'u darperir yn rhad ac am ddim yng Ngogledd Iwerddon, ac mae'r Bil yn nodi'n benodol nad oes rhaid i unigolion dalu amdanynt.