8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:48, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Canfu ymchwil gan Stonewall fod 34 y cant o bobl draws ac anneuaidd y cafodd eu dulliau adnabod eu hamau neu eu gwrthod yn y gorffennol yn nodi mai'r broblem oedd gwahaniaeth rhwng lluniau ac ymddangosiad. Dywedodd 32 y cant nad oedd eu dulliau adnabod yn cyd-fynd â'u henwau a roddwyd. Dywedodd 20 y cant nad oedd y dynodwr rhywedd yn cyfateb i'w hymddangosiad. Nododd 16 y cant elyniaeth a thrawsffobia. Dywedodd dros hanner y pleidleiswyr traws ac anneuaidd eu bod yn llai tebygol o bleidleisio pe bai'n rhaid iddynt gyflwyno dull adnabod.