8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:33, 26 Ionawr 2022

Ers i’r cynlluniau gael eu gwyntyllu ar gyfer ei gwneud yn orfodol i bawb orfod cyflwyno dull o ID fel hyn i bleidleisio, mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu hyn, a byddwn yn parhau i wrthwynebu hyn. Yn 2019, fe wnaethon ni lofnodi llythyr ar y cyd gan y gwrthbleidiau yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu'r polisi, ac, fel rydym wedi clywed, fe wnaethon ni wrthwynebu'r LCM, gan anfon neges gref gan y Senedd hon i Lywodraeth San Steffan nad ydym yn cefnogi hyn yma yng Nghymru.

Mae ID pleidleiswyr gorfodol yn gam a fydd yn difreinio yn benodol pleidleiswyr iau a phobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sy'n llai tebygol o fod â'r dogfennau gofynnol i bleidleisio. Mae'r gwahaniaeth cynyddol rhwng etholiadau y Deyrnas Unedig a rhai datganoledig Cymru yn peri pryder, o gofio bod hawliau pleidleisio ar gyfer etholiadau Cymru wedi'u hymestyn i bawb dros 16 oed, gan gynnwys gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru. Er bod etholiadau Cymru yn dod yn fwy cynhwysol a democrataidd, nid yw’r un peth yn wir am etholiadau San Steffan, sydd yn mynd ar drywydd cwbl groes i hynny.

Mae ffigurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hunan yn dangos y gallai 2 filiwn o bobl, gan gynnwys bron i 100,000 o bobl yng Nghymru, golli'r gallu i bleidleisio o ganlyniad i'r cynlluniau hyn. Ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn nifer o rybuddion gan grwpiau ymgyrchu am broblemau'r polisi a'u bod yn gorymateb i broblem twyll pleidleiswyr, sy'n digwydd yn anaml iawn. Ble mae'r ffeithiau o ran hynny? Mi oedd Jenny Rathbone yn iawn i godi hynny o ran Cymru. Yn wir, canfu dadansoddiad gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn 2019 o’r 266 honiad a ymchwiliwyd gan yr heddlu yn etholiadau lleol 2018 mai dim ond wyth oedd yn ymwneud gyda dynwared pleidleiswyr, sef y broblem honedig mae ID pleidleiswyr yn ceisio ei thaclo. O'r wyth achos, ni chymerwyd unrhyw gamau mewn saith, a chafodd un ei ddatrys yn lleol. Roedd 140 o'r honiadau yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Yn 2020, ymchwiliodd yr heddlu i 15 achos o dwyll pleidleiswyr, a dim ond tri sy'n parhau i gael eu harchwilio.

Mae cenedl wirioneddol ddemocrataidd yn un sy'n grymuso ei dinasyddion i gymryd rhan mewn prosesau democrataidd. Yn etholiad y Senedd ym mis Mai, gwyddom nad oedd o leiaf 35,000 o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi manteisio ar y cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf. Methodd 54 y cant o'r braced oedran hwn â chofrestru. Yn wir, 76.4 y cant yw cyfradd cofrestru'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; mae cyfrifoldeb arnom oll i wella hyn. Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, nid yw 25 y cant o Brydeinwyr du wedi cofrestru i bleidleisio. Parwch hyn gyda data'r Llywodraeth ei hun nad oes gan 48 y cant o bobl ddu drwydded yrru.

Gwyddom bod cysylltiad cryf rhwng bod yn rhan o’r broses ddemocrataidd a chyflawniad, a dylai fod yn amlwg felly i bawb y dylai’r gwaith o ddiwygio'r bleidlais fod yn edrych yn benodol ar gynhwysiant, yn hytrach na’i gwneud yn anos i bobl bleidleisio. Mae democratiaeth iach yn amhrisiadwy, ond mae’r newidiadau hyn yn awgrymu bod yna gost ynghlwm â bod yn wlad ddemocrataidd, sef £34 os ydych yn gwneud cais ar-lein neu £43 drwy'r post, sef y ffi am drwydded yrru gyntaf, neu £75.50 ar-lein neu £85 drwy’r post am basport. Yng Nghymru, mae pobl yn wynebu prisiau ynni a thanwydd uchel, toriadau i gredyd cynhwysol, trethi uwch a chwyddiant cynyddol. Ydyn ni wir yn meddwl bod gan bawb yr arian i dalu am drwydded yrru neu basport, yn arbennig os nad oes ganddynt gar na bwriad i fynd dramor? [Torri ar draws.] Grêt, Darren, hapus iawn i gymryd—