8. Dadl Plaid Cymru: Bil Etholiadau Llywodraeth y DU

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 26 Ionawr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:07, 26 Ionawr 2022

(Cyfieithwyd)

Pan fydd pobl ag anableddau'n cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig yn cael eu difreinio, pan fydd pleidleiswyr dosbarth gweithiol yn cael eu difreinio, mae angen inni boeni. Dyna pam y dylai'r Senedd hon a phob Aelod wrthwynebu'r Bil hwn a gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddifreinio ein dinasyddion. Ni ddylai'r Senedd hon fod yn bartner iau yn y broses o ddileu hawliau democrataidd a hawliau dynol ein dinasyddion. Mae'n tanseilio pob ffurf ar lywodraeth ddemocrataidd, ac mae'n ein tanseilio ni fel pobl.

Gadewch inni orffen ein dadl heddiw gyda dyfyniad arall gan Boris Johnson:

'Byddaf yn tynnu'r cerdyn hwnnw o fy waled ac yn mynd ati i'w fwyta ym mhresenoldeb pa elfen bynnag o'r wladwriaeth sydd wedi mynnu fy mod yn ei ddangos.'

Wel, Lywydd, mae Boris yn amlwg yn erbyn dulliau adnabod, felly rwy'n siŵr y bydd Darren Millar a chyd-Aelodau ei blaid yn ymuno â ni i gefnogi cynnig Plaid Cymru heno. Diolch yn fawr iawn.