Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 1 Chwefror 2022.
Fel yr eglurodd y Gweinidog eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.
Fe wnaethom nodi yn ein hadroddiad—dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gennyf yma—bod Llywodraeth y DU wedi cynnal ymarfer ymgynghori byr ynglŷn â'i rheoliadau a oedd yn cydnabod rhai newidiadau sy'n effeithio ar Gymru. O gofio bod Llywodraeth y DU wedi gallu cynnal ymgynghoriad, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru gadarnhau pam nad oedd yn gallu cynnal ymgynghoriad byr tebyg yng Nghymru. Yn ei hymateb i'n hadroddiad, eglurodd y Llywodraeth wedyn nad oedd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yma oherwydd pa mor frys yr oedd y rheoliadau ond bod Llywodraeth y DU, yn wir, wedi gwneud hynny yn lle hynny. Aeth ymateb y Llywodraeth yma yng Nghymru ymlaen i egluro bod y ddogfen ymgynghori yn nodi y byddai newidiadau tebyg yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth ddomestig yng Nghymru, a bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion penodol am randdeiliaid o Gymru y gofynnwyd iddynt ymateb i Lywodraeth y DU.
Rydym yn wir yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y wybodaeth honno, y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn ei hymateb i'n hadroddiad. Ond, Gweinidog, ac mae'n debyg bod hwn yn ailadroddiad cyfarwydd i chi yn awr gan ein pwyllgor ni, yr hyn a nodwn yw pe bai'r esboniad, a oedd yn ddefnyddiol iawn, wedi'i gynnwys yn y memorandwm esboniadol yn y lle cyntaf un, byddai wedi bod yn fwy defnyddiol fyth i gynorthwyo'r Senedd yn ei gwaith craffu, ond fel y dywedais i, Gweinidog, rydym yn ddiolchgar am yr esboniad dilynol mewn ymateb i'n hadroddiad, ac rydym bob amser yn ddiolchgar pan fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella'r ffordd y mae'n cyflwyno memoranda esboniadol hefyd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.