Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 1 Chwefror 2022.
Wel, dwi'n meddwl, Llywydd, fod hanes beth rŷn ni wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos mai'r ail awgrym yw'r un rŷn ni wedi mynd ati i'w wneud. Beth rŷn ni eisiau ei weld yw ffermwyr Cymreig yn arwain y ffordd, ffermwyr Cymreig yn plannu coedwig a pherchnogaeth yn aros yn lleol.