Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 1 Chwefror 2022.
Llywydd, mae 4,433 o drigolion Powys yn aros am driniaeth orthopedig, ac mae 2,532, neu 57 y cant ohonyn nhw, yn aros am driniaeth yn Lloegr. Gostyngodd nifer trigolion Powys a oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth orthopedig 16 y cant rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Tachwedd 2021.