Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:56, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Mae stripio asedau carbon yn ffenomen fyd-eang. Ychydig cyn y Nadolig, cynigiodd Llywodraeth Awstralia feto weinidogol ar ddatblygiadau credyd carbon coetir dros 15 hectar neu lle maen nhw'n ffurfio mwy na thraean o fferm. A ydych chi'n barod i ystyried diwygio'r system gynllunio neu gyflwyno dimensiwn cymdeithasol ac ieithyddol i'r broses asesu effaith i atal conwydd a sbriws rhag gwneud i'n cymunedau amaethyddol yr hyn y mae ail gartrefi wedi ei wneud i'n rhai arfordirol?

Gwers y profiad ail gartrefi yw na allwch chi fforddio aros. Ar ôl i'r tir amaethyddol gael ei golli, ni fydd byth yn dod yn ôl. Ar ôl i'r credydau carbon, sydd mor hanfodol yn ein taith ein hunain i sero net, yn cael eu tynnu o Gymru, ni fyddan nhw byth yn dychwelyd. A wnewch chi archwilio ar frys y cynnig, eto mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o 2014, o farchnad credyd carbon yng Nghymru, a fyddai'n golygu mai dim ond endidau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru fyddai'n gallu defnyddio credydau a gynhyrchir gan goedwigaeth yng Nghymru?