Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 1 Chwefror 2022.
Cafodd gwasanaethau fasgiwlar y gogedd eu had-drefnu yn 2019. Mae gwasanaethau arbenigol wedi cael eu datblygu yn Ysbyty Glan Clwyd, tra bod gwasanaethau fasgiwlar eraill yn aros yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafodd y model newydd ei gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Gymdeithas Fasgiwlar.