Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 1 Chwefror 2022

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nos Iau wythnos diwethaf, bues i mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth a alwyd yn sgil prynu fferm leol, Frongoch, gan gronfa fuddsoddi Foresight er mwyn plannu coed ac ennill credydau carbon. Mi oedd yna deulu ifanc yno oedd wedi gwneud cynnig i brynu'r fferm a ffermio'r tir nes bod Foresight wedi cynnig swm sylweddol yn fwy. Mae'n wir flin gen i orfod dweud hyn, Prif Weinidog, ond nid pantomeim yw hi pan fod cymuned gyfan yn cael ei 'gazump-io', ond trasiedi. Mi oedd angerdd yn y cyfarfod hwn a geiriau enwog Gwenallt am bentref gerllaw yn adleisio,

'Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed... / Coed lle y bu cymdogaeth, / Fforest lle bu ffermydd'.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU y bore yma wedi darparu gwybodaeth i ni sydd yn awgrymu bod hyn yn digwydd ar raddfa sylweddol, yn arbennig yn sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Ydy'r Llywodraeth yn foldon adolygu'r wybodaeth yma ar fyrder i ganfod gwir faint y broblem?