Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 1 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:53, 1 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ystod 10 ffenestr gyntaf cynllun creu coetir Glastir, roedd 1,121 o fuddiolwyr. Roedd gan 35 o'r rheini gyfeiriadau y tu allan i Gymru, ac ymhlith y 35 hynny mae sefydliadau fel Coed Cadw. Nawr, os oes rhagor o wybodaeth sydd ar gael drwy'r undebau ffermio, yna wrth gwrs byddai hynny yn ddefnyddiol iawn, ac edrychaf ymlaen at ei gael.