Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Chwefror 2022.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, fel y gwyddoch chi, ym mis Medi 2021, diweddarodd Sefydliad Iechyd y Byd y canllawiau ansawdd aer byd-eang am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r canllawiau newydd a sut y byddan nhw'n cael eu hymgorffori mewn deddfwriaeth yma yng Nghymru?
Yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch diweddaru canllawiau COVID ar gyfer ymweld â phobl mewn ysbytai? Cysylltodd un o fy etholwyr â mi o'i gwely ysbyty. Rhoddodd enedigaeth i'w merch gynamserol yn ddiweddar a dim ond am ddwy awr y dydd y mae ei gŵr yn cael caniatâd i ymweld â hi. Yn ogystal â methu â chael ei chefnogi yn ystod cyfnod trawmatig, mae ei gŵr hefyd ar ei golled drwy fethu â gweld ei ferch. Gofynnodd i mi, 'Pam ydy hi'n deg y byddaf i'n gallu mynd i gêm rygbi gyda miloedd o bobl ar gyfer y chwe gwlad yn fuan ond ni allaf gael fy ngŵr gyda mi yn yr ysbyty?' Mae gan wahanol ysbytai bolisïau gwahanol. A gawn ni ganllawiau wedi eu diweddaru â'r wybodaeth ddiweddaraf os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau eglurder a chysondeb i'r rhieni hyn?