Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Chwefror 2022.
Ym mis Awst 2021, fe gymeradwyais i gronfa bum mlynedd newydd ar gyfer integreiddio rhanbarthol i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghymru. Heddiw, rwy'n falch o allu rhoi mwy o fanylion am y gronfa a lansio'r canllawiau yn swyddogol a gyd-gynhyrchodd fy swyddogion i gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i baratoi ar gyfer lansio'r gronfa newydd ar 1 o fis Ebrill.
Ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw 'Cymru Iachach'. Mae'n cyflwyno gweledigaeth i'r dyfodol o ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac, yn allweddol, ar atal salwch. Mae'n cydnabod mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol yw ysgogyddion allweddol yr integreiddio, gan roi gallu iddyn nhw i gyfuno adnoddau ac arbenigedd ar gyfer darparu modelau gofal ataliol di-dor ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn ystod pandemig COVID-19 a chyda chymorth y gronfa gofal integredig a'r gronfa drawsnewid, mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi datblygu modelau newydd o ofal sydd wedi bod yn amhrisiadwy, gan gynnwys rhyddhau cleifion o'r ysbyty i'w cartref yn gyflym a modelau ar gyfer osgoi derbyn cleifion i ysbytai. Fe wyddom ni fod yna broblem eisoes o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Pe na bai'r modelau hyn ar waith, fe fyddai'r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth. Ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae cynllunio a darparu gwasanaethau integredig a chydgysylltiedig yn hanfodol i'n helpu ni wrth i ni barhau â'n hymateb i COVID-19, â'n bod ni'n adeiladu ar gyfer yr adferiad a'n bod ni'n trawsnewid ein system iechyd a gofal.
Rwy'n awyddus i weld Cymru yn adeiladu ar yr arferion da a'r gwaith partneriaeth sydd wedi datblygu ledled iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn ymgorffori datrysiadau cymunedol effeithiol ac ataliol. Fe fydd y gronfa integreiddio rhanbarthol newydd yn cefnogi'r gweithgareddau hyn drwy ymgorffori modelau gofal cenedlaethol presennol ymhellach, a thrwy ddatblygu rhai newydd ar gyfer y grwpiau blaenoriaeth a nodwyd yn y boblogaeth. Fe fydd y gronfa newydd yn rhedeg o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2027, ac fe fydd hi'n datblygu modelau gofal integredig cenedlaethol o amgylch chwe blaenoriaeth thematig allweddol. Y rhain yw: gofal yn y gymuned, atal a chydgysylltu cymunedol; yn ail, gofal yn seiliedig ar leoedd, gofal cymhleth yn nes at y cartref; yn drydydd, hyrwyddo iechyd a llesiant emosiynol; yn bedwerydd, cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel a thrwy ddarparu cymorth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o ofal; yn bumed, gartref o'r ysbyty; ac yn chweched, atebion ar sail llety.
Rwyf i wedi gwrando ar adborth gan bartneriaid rhanbarthol ac ar ganfyddiadau'r gwerthusiadau annibynnol o gronfeydd blaenorol, a oedd yn nodi bod cyllid byrdymor yn ei gwneud hi'n anodd trawsnewid ac integreiddio. Mewn ymateb i hynny, rwyf i wedi ymrwymo i fuddsoddiad blynyddol o £144 miliwn am bum mlynedd.