Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog; mae hi'n dda eich gweld chi yn y cnawd ar ôl sawl wythnos o gyfarfodydd Zoom dirifedi. Y canlyniadau ddylai fod wrth hanfod integreiddio gofal, felly pam rydym ni'n integreiddio gofal os nad i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bob dinesydd yng Nghymru? Mae anghenion gofal iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol mor ymhlyg yn ei gilydd o safbwynt y cleifion a'r sefydliadau. Gweinidog, sut wnaiff y gronfa newydd hon a'r modelau newydd hyn o ddarparu gofal sicrhau gofal gwell ac yn fwy amserol i gleifion? Sut y bydd cynlluniau a gydgynhyrchir gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol yn mynd i'r afael â'r prinder yn y ddarpariaeth o ofal?
Nid oes ond rhaid edrych ar y mannau gollwng y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys ledled y wlad i weld yr effaith y mae'r argyfwng ym maes gofal cymdeithasol yn ei chael ar ein GIG. Yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf, yn rhan o'n hymchwiliad ni i ryddhau cleifion o ysbytai, fe gawsom ni dystiolaeth a oedd yn amlygu ac yn tanlinellu'r effaith yr oedd oedi'n ei chael. Fe nododd y Coleg Meddygaeth Frys Brenhinol y gallai gormod o ddisgwyl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fod wedi cyfrannu at bron i 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; bu farw 1,946 o gleifion yng Nghymru am na ellid eu trin nhw mewn pryd. Gweinidog, pa mor fuan y bydd pobl Cymru yn gweld gwelliant a diwedd ar y marwolaethau y gellid eu hatal yn gyfan gwbl?
Rwy'n croesawu'r pwyslais a roddir ar atal, ond ni fydd hynny'n helpu'r degau o filoedd o bobl sy'n aros am driniaeth heddiw. Ar hyn o bryd, mae gennym ni gannoedd o gleifion sy'n feddygol barod i'w rhyddhau ond na ellir eu rhyddhau nhw i'w cartrefi nac i gyfleusterau gofal, dim ond am nad oes ganddyn nhw becyn gofal ar gael iddyn nhw. Fe gefais i siom o glywed bod nifer o gleifion yn mesur eu hamseroedd aros nhw mewn blynyddoedd, ac nid mewn wythnosau. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod honno'n feirniadaeth ysol o'n sefyllfa ni nawr pan fo'r awdurdodau lleol yn hysbysebu am wirfoddolwyr i gynnig gwasanaethau gofal cartref?
Mae Llywodraethau olynol wedi tanbrisio'r proffesiwn gofalu fel nad yw hi'n syndod ein bod ni'n ei chael hi'n anodd llenwi swyddi gwag. Heb ofalwyr, ni allwn ni roi pecynnau gofal; heb becynnau gofal, ni allwn ni ryddhau cleifion; a heb ryddhau'r rheini, nid oes posibl i ni dderbyn cleifion o'r newydd. Felly, Gweinidog, a ydych chi o'r farn y bydd byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gallu cael gwared ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal? A fyddan nhw'n gallu mynd i'r afael â'r argyfwng staffio?
Maddeuwch i mi os wyf i'n swnio braidd yn amheus, ond go brin fod byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi ennill bri yn ddiweddar. Roedd yr archwilydd cyffredinol yn canfod problemau gyda'r gronfa gofal integredig ac fe gododd bryderon o ran byrddau partneriaeth rhanbarthol yn methu â rhannu arfer gorau. A ydych chi'n credu bod byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi sicrhau gwerth am arian? Gweinidog, pa fesurau diogelu fydd ar waith i sicrhau bod y gronfa newydd hon yn llwyddo mwy na chronfeydd blaenorol? Sut caiff y gwariant hwn ei reoli a'i fonitro? Rwy'n croesawu'r sefyllfa o ran datblygu modelau newydd o ofal ac o ddarparu gofal yn nes adref, felly sut wnaiff y byrddau partneriaeth rhanbarthol ddod â gofal yn nes adref? A ydyn nhw am fabwysiadu dull o gynnal ysbyty yn y cartref fel roedd Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn ei awgrymu ac mae fy mhlaid i'n ei gefnogi?
Ac yn olaf, Gweinidog, rydych chi'n dweud y bydd y gronfa hon yn cefnogi'r grwpiau â blaenoriaeth a nodwyd yn y boblogaeth. Beth am bobl eraill sydd ag anghenion cymhleth? Oni fydden nhw'n elwa ar newid mor sylweddol ym maes gofal? Diolch yn fawr iawn i chi.