Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 1 Chwefror 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dwy flynedd bellach ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a 13 mis ers diwedd y cyfnod pontio, pan newidiodd ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol. Heddiw rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy asesiad o'r effaith bresennol ar Gymru, wrth i'n perthynas â'r hyn sy'n parhau i fod yn bartner masnachu agosaf a phwysicaf symud i normal newydd. Byddaf hefyd yn sôn am ein cynlluniau i gryfhau ein perthynas ag Ewrop ymhellach.
Mae ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid sefyllfa'r DU yn y byd a swyddogaeth Llywodraethau datganoledig yn sylweddol. Mae gennym gyfrifoldebau a dyletswyddau newydd sylweddol mewn cysylltiad â materion a oedd yn eistedd gyda sefydliadau Ewropeaidd yn flaenorol. Mae ein hymadawiad â'r UE hefyd wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y broses o lywodraethu'r DU a'r berthynas rhwng Llywodraethau'r DU. Mae rhai o'r rhain yn deillio, mae arnaf ofn, o elyniaeth Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli, ond mae eraill hyd yn oed yn fwy sylfaenol ac yn deillio o'n setliad datganoli democrataidd yn cael ei gynllunio o amgylch aelodaeth y DU o'r UE.
Mae ymadael â'r UE wedi rhoi'r gallu i'r DU ymrwymo i'w chytundebau masnach rydd ei hun gyda gwledydd ledled y byd. Er ein bod yn parhau i fod yn gefnogol ar y cyfan i gytundebau masnach rydd newydd, mae'r cytundebau hyn wedi bod yn gymharol fach hyd yma ac ni fyddan nhw'n gwneud iawn am golli masnach gyda'n partneriaid masnachu agosaf. Er enghraifft, asesiad effaith Llywodraeth y DU ei hun o'r cytundeb masnach rydd gydag Awstralia yw y gallai gynyddu cynnyrch domestig gros y DU yn y tymor hir 0.08 y cant. Ac, wrth gwrs, asesiad cyfredol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y gallai ymadael â'r UE leihau cynnyrch domestig gros 4 y cant. Byddwn yn parhau i gefnogi ein busnesau i addasu i'r berthynas fasnachu newydd â'r UE, gan gynnwys y newidiadau hynny nad ydyn nhw wedi dod i rym eto. Fodd bynnag, ni ddylid bod ag unrhyw gamargraff ynghylch yr ergyd y mae ymadael â'r UE yn ei chael ar economi Cymru ac, yn wir, y DU gyfan.
Gyda'r cefndir hwnnw, rwyf eisiau nodi sut yr ydym yn ceisio rheoli ein perthynas newydd â'r UE, fel y nodir yn y cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn darparu ar gyfer system o lywodraethu a goruchwylio. Mae hyn yn cynnwys cyfres o bwyllgorau arbenigol ar lefel swyddogol a phwyllgorau masnach arbenigol sy'n adrodd i'r cyngor partneriaeth yn y pen draw. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod wedi pwyso'n gyson am ymgysylltiad priodol gan Lywodraeth Cymru yn y strwythurau hyn, o ystyried ein buddiannau datganoledig cyfreithlon. Ar y cyfan, o ran y pwyllgorau a'r gweithgorau lle mae gennym ddiddordeb datganoledig, rwy'n falch o adrodd bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol wedi bod yn dda ar y cyfan. Mae swyddogion wedi bod yn rhan o'r paratoadau ar gyfer nifer o bwyllgorau ac wedi bod yn bresennol fel arsylwyr. Fodd bynnag, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n galwad ddilys i Weinidogion datganoledig y Llywodraeth fod yn gyfranogwyr gweithredol yng nghyfarfodydd cyngor partneriaeth y DU a'r UE. Rwy'n bwriadu codi hyn eto gyda Liz Truss, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi olynu'r Arglwydd Frost fel Gweinidog arweiniol y DU.
Cyn i mi droi at berthynas Cymru ag Ewrop, rwyf eisiau sôn yn fyr am brotocol Gogledd Iwerddon. Ein safbwynt ni'n gyson yw mai parchu a diogelu cytundeb Dydd Gwener y Groglith yw blaenoriaeth gyntaf y trafodaethau am ddyfodol y protocol. Mae gennym hefyd ddiddordeb uniongyrchol mewn unrhyw beth sy'n effeithio ar y ffordd y mae nwyddau'n llifo rhwng Prydain Fawr ac ynys Iwerddon, yn enwedig o ystyried yr effaith sylweddol y mae ymadael â'r UE eisoes wedi'i chael ar ein porthladdoedd sy'n wynebu'r gorllewin. Dim ond yr wythnos diwethaf, nododd Stena Line ostyngiad o 30 y cant yn y niferoedd drwy borthladdoedd Cymru ers diwedd y cyfnod pontio, a oedd yn gysylltiedig yn benodol ag ymadael â'r UE. Mae ansicrwydd gwirioneddol ynghylch a fydd y gostyngiad hwn mewn masnach yn gwella neu a yw'r golled yn barhaol.
Mae'n hanfodol bwysig bod y problemau sydd yn y fantol yn cael eu datrys, a dim ond drwy ddeialog barhaus y gall hyn ddigwydd. Gobeithiaf felly y bydd y cywair mwy adeiladol yr ydym wedi'i glywed yn ystod yr wythnosau diwethaf yn parhau. Os gellir dod i gytundeb ar y protocol, gallai hefyd helpu i symud y berthynas yn ei chyfanrwydd oddi wrth y dull gwrthweithiol sydd wedi'i fabwysiadu'n rhy aml gan Lywodraeth y DU a'i roi ar sail fwy cadarnhaol ac adeiladol. Rydym eisiau symud dros y tymor canolig i'r hirdymor tuag at y berthynas gryfach ac agosach â'r UE yr ydym bob amser wedi'i hyrwyddo.
Dirprwy Lywydd, yn dilyn y cytundeb masnach a chydweithredu, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer perthynas agos ac adeiladol rhwng Cymru a'r UE. Mae ein hanesion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol wedi'u cydblethu â gweddill Ewrop ac rydym yn rhannu gwerthoedd sylfaenol yr UE sy'n cwmpasu urddas dynol, rhyddid, democratiaeth, cydraddoldeb, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.
Yr UE fydd partner masnachu agosaf a phwysicaf y DU o hyd, a bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld. Am yr holl resymau hyn yr ydym wedi penodi Derek Vaughan i fod yn gynrychiolydd ar Ewrop. Gyda chefnogaeth ein swyddfa ym Mrwsel, bydd Derek yn gwneud cysylltiadau, yn casglu gwybodaeth berthnasol ac yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid i gefnogi datblygu blaenoriaethau polisi. Ymwelodd â Brwsel yr wythnos diwethaf am y tro cyntaf yn y swydd hon a chynhaliodd drafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn gydag uwch gydweithwyr yn sefydliadau'r UE, Llywodraeth y DU, Llywodraethau datganoledig eraill a rhanddeiliaid. Mae llawer o ewyllys da tuag at Gymru o hyd o fewn Ewrop, ond mae llawer o heriau i ddatblygu perthynas a all gefnogi anghenion economi a dinasyddion Cymru.
Bydd ein holl ymgysylltu Ewropeaidd yn cefnogi'r blaenoriaethau a nodir yn ein strategaeth ryngwladol: codi ein proffil, tyfu ein heconomi a bod yn gyfrifol yn fyd-eang. Byddwn ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin perthynas agos a chadarnhaol â'r UE, er budd holl fusnesau Cymru ac, wrth gwrs, ein dinasyddion. Diolch, Dirprwy Lywydd.