Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 2 Chwefror 2022.
Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn chwifio’r faner dros Gymru, a’n bod yn gwneud hynny mewn sawl ffordd. Soniais am ein swyddfeydd rhyngwladol. Mae gennym ddigwyddiad Gulfood ar y gorwel yn Dubai, yr wythnos nesaf rwy’n credu. A bydd HCC yn rhan o ddirprwyaeth Llywodraeth Cymru, neu’n cefnogi dirprwyaeth Llywodraeth Cymru, yn Dubai. Ac rydym wedi parhau â digwyddiadau tramor rhithwir, ond bydd yn dda gallu mynychu yn y cnawd. Felly, mae gennym ddigwyddiadau Anuga a SIAL i ddod eleni. Ond wrth gwrs, rydym yn croesawu'r ffaith bod y farchnad bellach wedi’i hagor yn America. Mae hynny'n rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio arno ers tua chwe blynedd, felly mae i'w groesawu'n fawr.
Ac fe wyddom fod pobl yn edrych ar y labelu, onid ydynt—wrth gwrs eu bod. Un maes lle rydym wedi gwneud gwelliannau enfawr yw marchnata cig oen a chig eidion o Gymru drwy deulu dynodiadau daearyddol Cymru. Felly mae gennym bedwar cig coch yn hwnnw erbyn hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gennym gig oen morfa heli Gŵyr—hwnnw oedd y cyntaf, mewn gwirionedd, o'r cynhyrchion o'r DU yng nghynllun dynodiadau daearyddol newydd y DU. Felly mae'n bwysig iawn, ac yn amlwg, bydd hwnnw ar y pecynnu. O ran labelu bwyd yn gyffredinol, rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, yn gyntaf oll, nad ydym yn gadael i Lywodraeth y DU lunio cytundebau masnach a fydd yn tanseilio’r safonau uchel iawn mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid. Felly mae hynny'n rhywbeth y buom yn siarad amdano yng nghyfarfod y grŵp rhyngweinidogol y cyfeiriais ato yn gynharach gyda DEFRA. Felly rydym yn parhau i weithio ar labelu. Ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth rydym wedi'i wneud yn dda iawn ers amser maith, ac yn sicr mae'r weledigaeth ar gyfer ein sector bwyd a diod o Gymru, nid cig coch yn unig, a lansiwyd gennyf yn ôl ym mis Hydref, yn dangos hynny.