Cig Oen ac Eidion o Gymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:34, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddwn yn arbennig o ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gwelliannau i labelu bwyd, gan weithio gyda’r diwydiant a’r sector ac archfarchnadoedd yn enwedig. Gofynnaf hyn yng nghyd-destun agor marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion o Gymru, yn enwedig wrth inni feddwl am farchnadoedd newydd yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft. Nawr, fe wyddom fod gennym gynnyrch cig oen a chig eidion o ansawdd uchel yng Nghymru a gwyddom hefyd fod ffermwyr yn talu sylw mawr i les anifeiliaid. Felly sut y gallwn werthu hynny, gwerthu brand Cymru, gan wybod bod llawer o'r marchnadoedd newydd hyn yn mynnu ansawdd uchel, ac yn mynnu tystiolaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â lles anifeiliaid? Sut y gallwn wella ein labelu yn benodol er mwyn helpu i werthu brand Cymru a chig oen a chig eidion o Gymru mewn marchnadoedd newydd eraill ym mhob cwr o'r byd?