Cyllid gan Lywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, bydd Cymru'n cael llawer llai o arian gan Lywodraeth y DU o'i gymharu â'r hyn a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd ac y byddem ni wedi ei gael o dan y cylch presennol o gyllid strwythurol. Mae'r warant absoliwt na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd wedi ei thorri a chefnwyd arni'n gyfan gwbl.