Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ers cyhoeddi'r strategaeth ryngwladol, rydym wedi cyhoeddi cyfres o gynlluniau gweithredu ac wedi atgyfnerthu ein perthynas â phartneriaid rhyngwladol allweddol. Rydym yn adolygu blaenoriaethau yn rheolaidd o'u cymharu â'r strategaeth ryngwladol wrth i ni symud i fyd y tu hwnt i coronafeirws.