Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae hi'n llygad ei lle i gyfeirio at wisgi Penderyn fel brand Cymreig blaenllaw, brand sy'n adnabyddus ar draws y byd. Mae gan Gymru frandiau blaenllaw mewn sawl rhan o fywyd; roedd yn wych bod Opera Cenedlaethol Cymru wedi cael eu dewis i berfformio yn Dubai yn y digwyddiad expo. Ond ym maes bwyd a diod yn arbennig, mae gennym gymaint o frandiau sy'n arwain y byd, ac yn Dubai—a bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad expo o amgylch Dydd Gŵyl Dewi—byddwn yn hyrwyddo dŵr Tŷ Nant, Rachel's Organic, Caws Eryri, ochr yn ochr â wisgi Penderyn, wrth gwrs.
Pan oeddwn i yn Japan, Llywydd—mae'n ymddangos yn bell yn ôl nawr—roedd wisgi Penderyn yn gerdyn galw go iawn i Gymru, yn cael ei adnabod ym mhobman. Roeddwn i yn Tokyo fy hun y diwrnod y rhedodd Tokyo allan o Lager Wrecsam yn ystod cwpan y byd, ac roedd hwnnw'n frand eiconig arall o Gymru sy'n adnabyddus ar draws y byd. Mae'r brandiau hynny, yn ogystal â bod yn gardiau galw ar gyfer busnesau Cymru, fel y dywedodd Vikki Howells, hefyd yn dod â phobl i Gymru. Unwaith eto, pan oeddwn i yn Japan, roedd bwyd a diod yn bwysig iawn i ymwelwyr Japaneaidd. Mae'n bwysig iawn yn wir fod ganddyn nhw ymdeimlad cryf o darddiad y bwyd y maen nhw'n ei fwyta. Pan fyddan nhw'n dod i Gymru, fel y gwnaethon nhw, hyd at y pandemig, yn eu niferoedd cynyddol o flwyddyn i flwyddyn, y brandiau eiconig hynny yw'r hyn sy'n ein helpu ni'n aml iawn i gryfhau'r cynnig twristiaeth hwnnw hefyd.