Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn. Rŷn ni'n gwybod bod dros hanner staff y Llywodraeth yn gweithio fan hyn yng Nghaerdydd, a rhyw 58 y cant ar draws y de-ddwyrain i gyd. Nawr, mae rhyw 19 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond eto dim ond rhyw 13 y cant o swyddi Llywodraeth Cymru sydd wedi eu lleoli yma, a, digwydd bod, mae nifer y swyddfeydd sydd gan y Llywodraeth yn y rhanbarth wedi'u lleoli ar gyrion trefi. A gaf i ofyn, felly, wrth inni'n araf bach symud yn ôl i ryw fath o normalrwydd ar ôl COVID, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ynglŷn â symud rhagor o swyddi i'r gorllewin a'r canolbarth a defnyddio adeiladau yng nghanol trefi fel swyddfeydd er mwyn adfywio'r trefi hyn yn economaidd a chymdeithasol?