Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch am yr ymddiheuriad. Dyna ni, dwi wedi galw un aelod o bob grŵp dros y tair wythnos ddiwethaf yma nawr sydd wedi gwneud yr un camgymeriad o beidio datgan diddordeb. A gaf i ofyn i'r rhai ohonoch sy'n gynghorwyr neu'n piau busnes, neu beth bynnag yw'ch diddordeb chi, geisio cofio hynny pan fyddwch chi'n gwneud eich cyfraniad yn hytrach na'n bod ni'n galw hyn yn hwyrach yn y sesiwn? Fyddaf i ddim yn caniatáu hynna ymhellach; mae pob un grŵp wedi cael one strike, and you're out.