4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:33, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, y cap ar brisiau a fydd yn dod i rym o fis Ebrill eleni ar gyfer defnyddwyr ynni preswyl. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Jane Hutt ddydd Iau, mae'r cynnydd o 54 y cant yn y cap yn amlwg yn ergyd drom i aelwydydd a theuluoedd sydd eisoes dan bwysau ac sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw. Daw'r cynnydd diweddaraf hwn yn dynn ar sodlau cynnydd sylweddol yn 2021, ac mae'n golygu y bydd bil ynni tanwydd deuol cartref nodweddiadol yn agos at £2,000 y flwyddyn. Er bod y cynnydd hwn wedi'i ysgogi'n rhannol gan yr amrywiadau diweddar ym mhris cyfanwerthu byd-eang nwy, rhaid i Lywodraeth y DU gael ei dwyn yn atebol am y dewisiadau y maen nhw wedi'u cymryd. Llywodraeth y DU sy'n gosod y fframwaith prisio mae Ofgem yn ei weithredu, ac mae hyn yn cael effaith annheg ar aelwydydd.

Rydyn ni i gyd yn cydnabod yr angen am weithredu ar frys gan y Llywodraeth i gyrraedd ein targedau sero-net, ond rhaid i ni gydnabod hefyd mai dull blaengar yw'r ffordd decaf o gyflawni'r nod hwnnw. Rydyn ni wedi bod yn gyson ac yn glir ynghylch yr angen am gyfnod pontio cyfiawn, gyda'r rhai mwyaf abl i dalu am y newidiadau angenrheidiol yn talu'r gyfran fwyaf o'r costau. O ganlyniad, rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu cost y newid drwy system dreth flaengar, yn hytrach na bod y costau hyn yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r defnyddiwr, gan daro aelwydydd yn galed gyda'r codiadau prisiau serth hyn pan fydd costau eraill hefyd yn cynyddu.

Yn ail, mae'r DU wedi dioddef ers tro byd o danfuddsoddi sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd. Drwy gydol y degawd diwethaf, torrodd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain gymorthdaliadau a methodd â rhoi'r cymhellion ar waith ar gyfer maint y buddsoddiad sydd ei angen. O ganlyniad, mae gennym anghydbwysedd yn ein system ynni, gyda gorddibyniaeth ar danwydd ffosil, am gost amgylcheddol sylweddol. Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth y DU yn argymell modelau ariannol ar gyfer buddsoddi ynni newydd sy'n trosglwyddo'r costau i ddefnyddwyr, gan drosglwyddo'r risg o ddatblygwyr i aelwydydd, gan roi pwysau ar filiau'r cartref yn y dyfodol drwy brisiau uwch.

Ac yn olaf, mae gennym ni Lywodraeth y DU sydd wedi parhau i dorri taliadau lles i'r rhai mwyaf anghenus, wedi methu â chodi trethiant gan y rhai mwyaf abl i dalu, ac wedi gadael y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau gydag argyfwng cost byw. Gan ystyried y cynnydd diweddaraf hwn yn y cap ar brisiau, mae 145,000 o aelwydydd a oedd mewn perygl o dlodi tanwydd yn 2018 bellach yn debygol o gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae hyn yn golygu bod mwy na chwarter yr holl aelwydydd yng Nghymru, os nad mwy, yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch a ddylid gwresogi eu cartrefi ai peidio.

Ysgrifennodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau at Lywodraeth y DU ar 11 Ionawr, gan bwyso'r achos dros weithredu ar unwaith a nodi cyfres o gamau y mae angen eu cymryd. Mae'r camau hynny'n cynnwys ehangu'r gostyngiad cynnes yn y cartref, dileu costau polisi o filiau'r cartref a'u hariannu yn hytrach na threthiant cyffredinol. Mae ymateb Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn llai na'r camau sydd eu hangen. Er y bydd y cynnig i ddarparu gostyngiad o £200 i bob aelwyd yn helpu gyda'r biliau mae angen i aelwydydd eu talu heddiw, nid yw ar gael tan fis Hydref nesaf. Hyd yn oed pan ddaw'r cymorth hwn drwodd, mae'n daliad untro; mae angen ei ad-dalu dros y pum mlynedd nesaf, felly ni fydd yn gwneud dim i helpu aelwydydd yn y tymor canolig.

Mae Llywodraeth y DU yn gamblo y bydd prisiau nwy cyfanwerthol yn gostwng fel na fydd effaith yr ad-daliad yn cael ei deimlo cymaint gan aelwydydd. Ond mae'r realiti yn debygol o fod yn faich ychwanegol ar aelwydydd i dalu'r arian hwn yn ôl ar adeg pan fo'r cap ar brisiau yn parhau i godi o ganlyniad i'r methiannau sylfaenol yn y ffordd mae Llywodraeth y DU yn goruchwylio'r system ynni. Y canlyniad yma yw bod defnyddwyr yn wynebu costau uwch am gyfnod parhaus o amser. Nid brig tymor byr yn y farchnad yw hwn, ac yn fy nghyfarfod ag Ofgem yr wythnos diwethaf roedden nhw’n glir gyda mi y bydd adegau anodd o'n blaenau i aelwydydd. Galwais ar Ofgem i sicrhau bod hawliau cwsmeriaid yn cael eu diogelu a bod gan aelwydydd sy'n agored i niwed fynediad llawn i'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Ailadroddais fy ymrwymiad i weithio gydag Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn manteisio i'r eithaf ar yr holl wasanaethau ar yr adeg hon o gyni.

Dirprwy Lywydd, rydyn ni’n glir y byddwn ni’n defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni i gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae ein cynllun ymdopi â thywydd oer yn nodi 14 o gamau gweithredu yr ydym ni eisoes yn eu cymryd gyda phartneriaid i gefnogi aelwydydd. Cam allweddol yw helpu i wella effeithlonrwydd ynni domestig drwy gynllun Nyth y rhaglen Cartrefi Cynnes. Mae ein buddsoddiad parhaus yn arbed mwy na £300 ar gyfartaledd i aelwydydd incwm ar eu biliau ynni. Roedd ein cronfa cymorth i gartrefi gwerth £51 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cynnwys £38 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi cynllun cymorth tanwydd gaeaf. Roedd hyn yn cynnig budd-daliadau untro o £100 i aelwydydd o oedran gweithio sy'n derbyn budd-daliadau prawf modd tuag at gost eu hanghenion ynni. Ac, yr wythnos diwethaf, yn wyneb pwysau cynyddol ar aelwydydd a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU, fe wnaethom arwain drwy esiampl a chyhoeddi ehangiad i’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan ddyblu'r taliad untro i £200. Yn wahanol i gynnig Llywodraeth y DU, mae hyn yn gymorth ar unwaith heb amserlen ad-dalu. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn mynd beth o'r ffordd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond fe wyddom ni na fydd hyn yn ddigon o hyd i lawer o bobl sy'n byw mewn angen.

Yng ngoleuni'r newidiadau ym mis Ebrill, a'r tebygolrwydd o gynnydd pellach, rydyn ni am wneud mwy. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â Gweithredu Ynni Cenedlaethol i archwilio'r opsiynau ar gyfer mesurau cymorth pellach. Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ar 17 Chwefror gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol eraill i nodi beth arall y gellir ei wneud i gefnogi aelwydydd yn awr ac yn y dyfodol. Ac, wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae angen i ni gydnabod mai'r watt mwyaf cynaliadwy o ynni yw'r un nad oes ei angen. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i sefydlu polisïau sy'n cefnogi lleihau'r galw am ynni, arbed arian i bobl a busnesau Cymru yn ogystal â mynd i'r afael ag allyriadau—polisïau sy'n cynnwys buddsoddi yn y stoc dai i wella effeithlonrwydd ynni, cefnogi'r economi gylchol i annog ailddefnyddio ac atgyweirio, a gweithio'n agos gyda diwydiant i gefnogi defnydd mwy cynaliadwy o ynni.

Rydyn ni wedi ymrwymo i drawsnewid cyfiawn a sicrhau bod y system ynni yng Nghymru yn cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y ffordd decaf bosibl. Wrth i ni barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am newidiadau brys i'r ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi aelwydydd yng Nghymru. Mae dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach i Gymru mewn perygl yn sgil marchnad ynni hen ffasiwn a strwythur prisio ynni sy'n ddall i'r effeithiau ar y tlotaf a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Rhaid i ni weithio i wneud beth bynnag y gallwn ni i gadw ein gweledigaeth yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.