Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 8 Chwefror 2022.
Wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru, a'r Gweinidog yn benodol, yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, effeithiau newid hinsawdd, Brexit a lliniaru'r wasgfa ar incwm aelwydydd. Mae pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig hefyd yn parhau i fod yn arwyddocaol ar gyfer iechyd, llywodraeth leol a busnesau. Mae ein hadroddiad yn gwneud 41 o argymhellion. O ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.
Mae newid nodedig ac i'w groesawu yn y gyllideb ddrafft hon tuag at adferiad. Mae'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi bod yn well na'r disgwyl ac mae rhagolygon diwygiedig ar gyfer sylfaen drethi Cymru hefyd yn dangos rhagolygon economaidd gwell. Rydym yn croesawu'r cynnydd yn grant bloc Cymru, sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu dyraniadau cyllideb ar draws yr holl grwpiau gwariant. Mae angen mawr am hyn ac mae'n rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, er bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn cynnwys cynnydd sylweddol, mae'r cynnydd yn y ddwy flynedd ganlynol yn llawer llai, a bydd y blynyddoedd hyn hyd yn oed yn fwy heriol.
Fel pwyllgor, rydym ni hefyd yn pryderu am y rhagolygon cyfyngedig ar gyfer cyllid cyfalaf, sydd, mewn termau real, yn debygol o gael ei dorri dros y cyfnod o dair blynedd. Bydd angen gwneud dewisiadau anodd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi newid ei dull o ddyrannu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf, sydd â'r bwriad o sicrhau cymaint o gyllid â phosibl, drwy fenthyca a symiau canlyniadol posibl. Fodd bynnag, hoffem ni gadw llygad ar y dull newydd hwn ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adrodd yn ôl ar y sefyllfa gyllid yn ystod y flwyddyn sy'n gysylltiedig â chynlluniau cyfalaf sydd wedi eu gor-raglennu a'i bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cyllid a geir yng nghronfa wrth gefn Cymru.
O ran cyllid, mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r ymreolaeth i wthio cyllid o un flwyddyn i'r nesaf, er mwyn atal unrhyw arian o Gymru rhag cael ei golli. Er mwyn gwneud ei gwaith yn effeithiol, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl yn y gyllideb, felly rydym yn cefnogi'r Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a oedd yn cynnwys nifer o ymrwymiadau gwariant ychwanegol. Er i'r Gweinidog ddweud wrthym nad oedd y cytundeb yn cael fawr o effaith ar y broses o flaenoriaethu cyllid ar gyfer eleni, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi eglurder ynghylch sut y caiff y cyllid ar gyfer ymrwymiadau polisi cysylltiedig ei adlewyrchu yn y dyraniadau cyllideb yn y dyfodol.
Hoffwn i droi yn awr at sut mae'r gyllideb ddrafft yn effeithio ar feysydd polisi penodol. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r farn bod iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol wedi cael setliad da, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethu gwasanaethau lleol. Rydym ni hefyd yn falch o glywed y sylwadau cadarnhaol ynghylch ymateb a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae'r sectorau hyn yn destun pwysau digynsail. Fel y nodwyd, bydd dyraniadau cyfalaf yn gyfyngiad penodol, o ystyried y galwadau am drawsnewid gwasanaethau, buddsoddi mewn seilwaith a goblygiadau ehangach datgarboneiddio a lleihau effaith amgylcheddol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried newid refeniw i gyfalaf yn rhan o gyllidebau'r dyfodol ac yn caniatáu i'r sector iechyd wneud yr un peth, i ddarparu hyblygrwydd, o ystyried y cyllid cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael. Rydym hefyd yn pryderu am brinder staff a materion yn ymwneud â'r gweithlu, wrth i staff ddioddef yn sgil absenoldebau oherwydd eu bod wedi eu gorweithio a COVID-19. Mae heriau tymor hwy hefyd i fynd i'r afael â nhw, er enghraifft nifer uchel o swyddi gwag ymhlith staff, wrth i lawer yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wneud dewisiadau gyrfa amgen, sydd yn aml gyda gwell cyflog. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth i ddangos sut y bydd y dyraniadau ar gyfer 2022-23 yn lleddfu'r pwysau uniongyrchol ar staffio ar draws y sectorau iechyd, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y busnesau y buom yn siarad â nhw fel pwyllgor wrthym fod yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sectorau y maen nhw'n eu cynrychioli wedi bod yn dda. Roedd cydnabyddiaeth o'r cymorth cyflym a roddodd Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, yn enwedig yr egwyl i ardrethi busnes, y cynllun ffyrlo, grantiau a benthyciadau. Fodd bynnag, fe wnaethom ni glywed hefyd y gellid gwneud mwy, a dyna pam yr ydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud rhagor o ddyraniadau yn y gyllideb derfynol i gynyddu'r cymorth ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Er mwyn galluogi busnesau a manwerthwyr llai i adfer ar ôl y pandemig, rydym yn argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith a sgiliau digidol ac yn helpu'r busnesau hynny i ddatblygu presenoldeb ar-lein.