Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 8 Chwefror 2022.
Soniais ar ddechrau’r cyfraniad hwn fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar farn rhanddeiliaid yn flaenoriaeth gen i fel Cadeirydd. Mae dangos effaith y gyllideb yn hollbwysig er mwyn sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â’r sectorau a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt, ac yn rhoi cyfle iddynt lywio a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi argymell felly y dylid ystyried sut y cyflwynir gwybodaeth gyllidebol fel ei bod yn gysylltiedig â chanlyniadau ac effeithiau. Teimlwn y bydd hyn yn helpu gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn ogystal â chynyddu gallu’r cyhoedd a’r Senedd i ddwyn cyllideb Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gwaith craffu ariannol yn bwysicach nag erioed, oherwydd bydd gwariant cyhoeddus ar raddfa fawr yn ofynnol i sicrhau adferiad o’r pandemig a mynd i’r afael â’r pwysau aruthrol y mae Cymru yn eu hwynebu. Fel y dywedodd cyfranwr o un o grwpiau ffocws y pwyllgor wrthym, gallai cynnydd mewn gwariant wneud byd o wahaniaeth wrth inni adfer ar ôl y pandemig. Mae'r pwyllgor yn falch bod y safbwyntiau hynny'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mater i'r Gweinidog rŵan ydy sicrhau bod gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei gwireddu. Fel pwyllgor, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw llygad barcud ar sicrhau bod rhethreg Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r realiti. Diolch yn fawr.