6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:53, 8 Chwefror 2022

Dwi am rannu, gyda'ch caniatâd chi, fy nghyfraniad i yn gyntaf yn fy nghapasiti fel llefarydd fy mhlaid ar gyllid, ac wedyn i fynd ymlaen i wneud rhai sylwadau fel Cadeirydd pwyllgor.

Yn gyntaf, o safbwynt Plaid Cymru, wrth gwrs, rŷn ni yn croesawu, fel clywon ni gan y Cadeirydd, fod hon, o'r diwedd, yn gyllideb aml-flwyddyn. Dwi'n credu ein bod ni wedi aros rhyw bum mlynedd, dwi'n meddwl, i gael bod yn y sefyllfa yma. Mae'n wyrthiol, a dweud y gwir, sut mae cyrff cyhoeddus a'r Llywodraeth ei hunan i raddau, wedi gallu cynllunio mewn sefyllfa neu ar sail mor anwadal, yn gorfod mynd o flwyddyn i flwyddyn oherwydd gwahanol sefyllfaoedd sydd wedi codi ar lefel San Steffan. A gobeithio nawr y bydd y sicrwydd yma'n gallu caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allu gwasgu pob ceiniog allan o'r pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio mor galed ag sy'n bosib. Ac mae angen i hynny digwydd, wrth gwrs, achos efallai gallai rhai pobl ddadlau bod y setliad, yn ymddangosiadol, efallai, ar yr olwg gyntaf, yn edrych yn weddol hael; mae'r realiti yn wahanol iawn, yn enwedig os edrychwch chi dros y tair blynedd gyfan.

Rŷn ni'n dal yn gweld oblygiadau Brexit, sydd yn dod â chostau ychwanegol i ni yma yng Nghymru, rŷn ni'n dal i frwydro COVID, rŷn ni'n dal, wrth gwrs, yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru ac ar draws y byd, a nawr rŷn ni'n gweld y crisis costau byw yn taro. Felly, os ŷch chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd, a llywodraeth leol, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod o dan bwysau ers blynyddoedd, wel, dyw hynna ddim yn mynd i leihau yn y cyfnod nesaf. Mae'n bosib iawn y bydd e'n dwysáu, ac mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof. Mae'r Ceidwadwyr yn sefyll lan yn y Siambr hon ac yn awgrymu bod Trysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn hael â Chymru. Mae'n ffars, yn fy marn i, ac mae'n sarhad, a dweud y gwir. Hyd yn oed petaech chi yn derbyn ei fod e'n setliad gwell na'r disgwyl, beth rŷn ni'n gweld, wrth gwrs, yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig efallai yn rhoi gydag un llaw, ond yn cymryd gyda'r llaw arall. Maen nhw'n pocedu £1 biliwn o bres Ewropeaidd a ddylai fod yn dod i Gymru, gwrthod siâr Cymru o bres HS2, tra eu bod nhw'n hapus i'w roi i'r Alban, a'i roi i Ogledd Iwerddon, ond ddim i Gymru, o na. Mae Cymru angen gwybod ei lle pan fo'n dod i dderbyn cyllid o'r fan yna.