6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 5:04, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Gweinidogion, y Dirprwy Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a roddodd dystiolaeth i ni ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gefnogi ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft eleni. Yn ogystal ag ymddangos gerbron y pwyllgor, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ysgrifenedig helaeth a manwl i ni. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled a'u cydweithrediad, a wnaeth wella ein gallu i graffu ar y gyllideb ddrafft. Fe wnaethom ni ofyn am wybodaeth mor fanwl oherwydd profiadau ein pwyllgor blaenorol, a oedd yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn nodi'n ddigon clir sut yr oedd ei chyllidebau drafft yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn anffodus, roedd hyn yn wir eleni hefyd. Yn siomedig, ni chyhoeddodd y Llywodraeth asesiadau o'r effaith ar hawliau plant i ddangos sut yr oedd hawliau plant yn llywio dyraniadau cyllideb ar gyfer plant a phobl ifanc. Hepgoriad amlwg oedd nad oedd yn sôn am hawliau plant unwaith yn ei holl asesiad effaith integredig strategol.

Rydym yn pryderu'n fawr fod hwn yn gam yn ôl yn ei rhwymedigaethau statudol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r gyfraith hon yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud. Mae'r dyraniadau ariannol ar draws portffolios Llywodraeth Cymru ymysg y penderfyniadau pwysicaf y mae Gweinidogion Cymru yn eu gwneud. Rydym yn gobeithio bod eleni yn wall anffodus a bod y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion yn y maes hwn ar gyfer cyllidebau drafft yn y dyfodol.

Gwnaethom nifer o argymhellion cryf, ond hoffwn i dynnu sylw at ddau argymhelliad arall o'n hadroddiad terfynol. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag iechyd meddwl amenedigol. Ar hyn o bryd, mae llawer o deuluoedd yn y gogledd a'r canolbarth yn gorfod teithio pellteroedd afresymol o hir i gael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Fe wnaethom ni glywed gan y Dirprwy Weinidog bod cynlluniau i agor darpariaeth newydd ar gyfer y teuluoedd hynny ychydig dros y ffin, ar y cyd â GIG Lloegr, yn cael eu gweithredu'n gyflym. Yn anffodus, clywodd ein pwyllgor blaenorol sicrwydd tebyg yn ôl yn 2017. Rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro pa wasanaethau fydd yn agor i deuluoedd Cymru, a phryd y bydd y gwasanaethau hynny ar gael.

Mae'r ail yn ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi newid uchafswm dyfarniad y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 ers 2004. Nid yw ychwaith wedi newid uchafswm trothwy incwm aelwydydd ers blwyddyn ariannol 2011-12. Rydym ni o'r farn bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn ffynhonnell amhrisiadwy o incwm i blant a'u teuluoedd. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn egluro pam y mae wedi gadael i werth y lwfans mewn termau real ostwng mor sylweddol, ac effaith y gostyngiad hwnnw ar nifer y dysgwyr sy'n gymwys i'w gael.

Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion adeiladol eraill ar draws ystod o feysydd polisi hanfodol. Yn fwy cyffredinol, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn 2022-23 ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn benodol, rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl COVID, a'r cyllid ar ei gyfer.

Rydym wedi cytuno y byddwn yn rhoi sylw arbennig ar hyd y chweched Senedd i gyflawni polisïau. Mae hyn yn berthnasol i lawer o ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i ni mewn cysylltiad â'r gyllideb ddrafft. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a thu hwnt, bydd fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a minnau yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn trosi'r ymrwymiadau a'r dyraniadau cyllid hynny yn welliannau gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Diolch.