Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 8 Chwefror 2022.
Nid oeddwn i am fynd ymhellach, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu i mi gyrraedd cyn belled ag y gallwn i gyda hynna. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym ni'r amcanion a gafodd eu pennu gan y Llywodraeth cyn y rhaglenni hyn—amcanion, amserlenni, targedau—fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y dyfodol am gyflawni, neu am beidio â chyflawni, yr ymrwymiadau y maen nhw'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd.