Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 8 Chwefror 2022.
Rwy'n deall eich dadl bod angen mwy o arian ar Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd ar drywydd yr holl bobl sy'n llygru ein hafonydd, ond tybed a allech chi nodi o ble y credwch y gallai fod angen i'r arian ddod ohono i wneud hynny? Er enghraifft, a fyddech chi'n cefnogi cynnig Undeb Amaethwyr Cymru i gapio taliadau sylfaenol, fel nad ydym yn ariannu miliwnyddion?