Part of the debate – Senedd Cymru am 6:47 pm ar 8 Chwefror 2022.
Dyma ni'n cyrraedd nawr y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 5, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 11 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.