Part of QNR – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2022.
Mae ein grant datblygu disgyblion mynediad yn mynd yn syth i deuluoedd ar gyfer prynu gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol eraill. Rydyn ni wedi cynyddu’r cyllid eleni eto i dros £14 miliwn. Mae hyn yn caniatáu i ni ariannu disgyblion cymwys ym mhob blwyddyn ysgol yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.