Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 1:40, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae’r argyfwng costau byw sy’n effeithio ar bobl ledled y DU yn frawychus dros ben i lawer o bobl yn fy etholaeth i. Mae tlodi gwledig yn rhywbeth nad yw llawer yn y Gymru drefol yn ei ystyried wrth greu polisïau i wrthsefyll caledi economaidd i lawer o deuluoedd ar incwm is sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae yna ffyrdd o ymladd yr argyfwng o fewn y setliad datganoli. Mae gan eich Llywodraeth reolaeth rannol dros lefelau treth incwm, a bob blwyddyn, gallwch ddewis amrywio’r cyfraddau hyn. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i dorri cyfradd y dreth incwm i'r rheini sy'n talu'r gyfradd sylfaenol er mwyn lleddfu rhywfaint ar y pwysau a wynebir gan y rheini ar y cyflogau isaf yn ein cymdeithas? Diolch, Lywydd.