Biliau Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:57, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae hyn yn dangos pa mor drawslywodraethol yw’r maes polisi hwn, gan y bydd hwn hefyd yn gwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond gall hefyd fwydo i mewn i’r ymgynghoriad rwyf newydd fod yn sôn amdano, wrth ymateb i’r cwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni, rhaglen Cartrefi Clyd a'r ymgynghoriad. Felly, yn amlwg, mae angen inni edrych ar bob cyfle i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac mae hynny ar gyfer aelwydydd hefyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud bod angen buddsoddiad sylweddol ar hyn, a byddwn yn gobeithio y byddech yn cefnogi ein galwad am ddyraniad mwy o drethiant cyffredinol drwy Drysorlys Llywodraeth y DU i'n helpu gyda'r uchelgeisiau hynod bwysig hyn.