Biliau Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:59, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y gefnogaeth gref gan y Siambr hon—rhai o ochrau’r Siambr hon, beth bynnag—i alw am dreth ffawdelw, sef yr union beth y galwodd Julie James a minnau amdano yr wythnos diwethaf wrth ymateb i godi'r cap gan Ofgem, sydd wrth gwrs yn cael effaith ddinistriol ar aelwydydd ledled Cymru, ac yn enwedig yn eich etholaeth chi yn Islwyn—. Roeddwn yn cytuno'n gryf â phennawd erthygl olygyddol y Western Mail, yn galw am leddfu poen defnyddwyr drwy gyflwyno treth ffawdelw. Credaf fod hynny'n cynrychioli barn pobl yng Nghymru ar y ffawdelw ofnadwy hwnnw—Shell yr wythnos diwethaf a BP yr wythnos hon. Gyda chynnydd o £700 yn y cap ar brisiau ynni, pam nad ydynt yn cyflwyno treth ffawdelw yn awr?