Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 9 Chwefror 2022.
Rydym yn parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i wneud Cymru'r genedl fwyaf cyfeillgar LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein cynllun gweithredu LHTDC+ yn rhan allweddol o'n rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu i ben ym mis Hydref ac mae dadansoddiad ar y gweill, a fydd yn cael ei ddefnyddio i'w ddatblygu a'i gryfhau ymhellach.