Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o drechu tlodi yw hyrwyddo ffyniant, ac un o'r ffyrdd gorau o godi allan o dlodi yw bod mewn swydd dda a diogel ac i fusnesau ffynnu er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol mai peth o fy hoff ddeunydd darllen amser gwely yw'r cytundeb cydweithio rhwng eich Llywodraeth chi a Phlaid Cymru, ac er bod nifer o gyfeiriadau yno at drechu tlodi, siom oedd gweld na ddefnyddiwyd y gair 'ffyniant' un waith drwy'r ddogfen honno, rhywbeth a allai deimlo fel mater bach i rai, Lywydd, ond mae'n ymwneud â gosod cywair cadarnhaol ynghylch uchelgais i ni yma yng Nghymru. Yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod ffyniant yn cael ei hyrwyddo, gan sicrhau bod swyddi a gyrfaoedd ar gael ledled gogledd Cymru er mwyn helpu i leihau tlodi? Diolch yn fawr iawn.