Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:40, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ddiwedd mis Ionawr, gofynnodd fy nghyfaill ym Mhlaid Genedlaethol yr Alban, Kirsty Blackman, gwestiwn am adolygiadau ôl-ddeddfwriaethol yn Swyddfa Cymru. Mewn ymateb i’r cwestiwn hwnnw, atebodd Simon Hart, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ôl y Gweinidog cyfleoedd Brexit, fod gwaith ar y gweill i asesu Deddf Cymru 2017. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol, mae hon yn ddeddfwriaeth allweddol mewn perthynas â'r setliad datganoli. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu y dylem roi cydsyniad i’r Bil Iechyd a Gofal, a fydd yn rhoi pŵer i Weinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, deddfwriaeth allweddol arall mewn perthynas â’n setliad datganoli. O ystyried yr holl gamau eraill y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i danseilio datganoli, a ydych yn pryderu ynglŷn â throsglwyddo’r pŵer hwnnw iddynt? Hefyd, a oeddech yn ymwybodol o’r adolygiad o Ddeddf 2017? Ac os felly, pryd roeddech chi'n mynd i roi gwybod i'r Senedd? Diolch yn fawr.