Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Chwefror 2022.
Credaf fod y diwygiadau rhynglywodraethol yn cynnwys rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Os gellir eu gwneud yn rhan annatod o'r cywair parchus ond hefyd o beirianwaith y Llywodraeth fel eu bod yn wirioneddol ystyrlon rhwng Llywodraethau, mae ynddynt obaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ond yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw bod cryfhau'r peirianwaith rhynglywodraethol yn golygu bod angen mwy o graffu ar yr hyn sy'n digwydd ar y lefel honno. Felly, tybed—ac rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed y Cwnsler Cyffredinol, mai mater i Seneddau yw hwn—a fyddai ef, yn bersonol, gyda’i brofiad ef, yn cefnogi’r cysyniad fod angen ffocws cyfartal yn awr ar ddiwygio rhyngseneddol fel bod y craffu'n addas ar gyfer diwygio rhynglywodraethol? A gellid bwrw ymlaen â hynny drwy waith o fewn y pwyllgorau ar draws y gwledydd, drwy'r fforymau rydym yn eu hail-gyfansoddi o fewn y seneddau, neu'n wir—a chyda pharch mawr i fy nghyd-Aelod sy'n eistedd gyferbyn—drwy gonfensiwn y Llywyddion hefyd pe byddent yn dymuno troi eu sylw at ddiwygio rhyngseneddol.