Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:43, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Nawr, rydym wedi cael yr adroddiad hirddisgwyliedig ar gysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n mynd i adeiladu gwell perthynas rhwng Llywodraethau'r DU, yn seiliedig ar egwyddorion parch cydradd a meithrin a chynnal ymddiriedaeth. Ond y gwir amdani, Gwnsler Cyffredinol, yw bod cryn dipyn o ddrwgdybiaeth rhwng y Llywodraethau, rhagolygon sylfaenol wahanol ynghylch dyfodol y cyfansoddiad a gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ymdrechion i ailddatgan sofraniaeth Senedd y DU dros y gwledydd datganoledig. Felly, beth sy’n cael ei wneud i roi’r peirianwaith a’r prosesau a nodir ar waith er mwyn troi ymddiriedaeth a pharch cydradd yn berthynas rynglywodraethol gadarnhaol ac adeiladol? Yn ogystal, a fydd y trafodaethau ynghylch y peirianwaith a’r broses yn ein cynnwys ni yma yn y Senedd? Diolch.